Home Charity Ymyrraeth iechyd meddwl VR arloesol wedi’i threialu yng Nghymru

Ymyrraeth iechyd meddwl VR arloesol wedi’i threialu yng Nghymru

0
430
Advertisement

Mae rhaglen dreialu cymorth iechyd meddwl drwy benset realiti rhithwir ar y gweill yng Nghymru. 

Mae’r rhaglen a ddatblygwyd gan yr elusen iechyd meddwl New Horizons mewn partneriaeth â Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg yn defnyddio technegau therapi gwybyddol sy’n seiliedig ar ymwybyddiaeth ofalgar (MBCT) i dargedu gwelliant yn llesiant meddyliol unigolyn. 

Mae modd benthyg penset VR i rywun yn ei gartref ei hun gan gynnig ychwanegiad hygyrch i ofal ehangach nad yw’n stigmateiddio ac sydd wedi’i deilwra i ffordd unigolyn o fyw. Mae gan 1 o bob 6 o bobl ifanc yng Nghymru broblem iechyd meddwl wedi’i diagnosio yn ôl Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, tra bod 20% o bobl o gymunedau difreintiedig yn cael eu trin am gyflwr iechyd meddwl yn ôl adroddiad y Senedd yn 2022.    

Advertisement

Y treial yw’r cyntaf o’i fath yng Nghymru ac mae wedi derbyn £50,000 gan Gronfa Gymunedol Fferm Wynt Pen y Cymoedd, sy’n darparu mwy na £2 filiwn o gyllid i brosiectau sydd o fudd i gymunedau yn rhan uchaf cymoedd Nedd, Afan, Rhondda a Chynon bob blwyddyn. Fe’i datblygwyd mewn partneriaeth â Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf, Arts Factory, a Tend VR. 

Mae’r prosiect wedi’i gynnwys yn Rhaglen Enghreifftiol Comisiwn Bevan ar gyfer 2024/25, sy’n cefnogi gweithwyr proffesiynol gofal iechyd yng Nghymru i ddatblygu a phrofi syniadau arloesol i wella gofal cleifion. 

Dechreuodd y prosiect 10 wythnos ei gyfnod prawf yn gynharach eleni, a Marc Hughes, 39 oed, oedd un o’r bobl gyntaf i ddefnyddio’r therapi realiti rhithwir. Gan wirfoddoli yn yr Arts Factory yn Rhondda Cynon Taf, cafodd Marc ei gyflwyno i MBCT ar ôl i New Horizons wahodd staff i’r treial. Ar ôl dioddef o orbryder ac iselder am y rhan fwyaf o’i oes, croesawodd y dyn o’r Rhondda y cyfle. 

“Roeddwn i mewn ffrâm tywyll o feddwl ar y pryd y cyflwynwyd therapi i mi, yn dioddef o orbryder ac roeddwn i’n llawer mwy ynysig,” meddai Marc. “Ond ers defnyddio’r dechnoleg newydd yma, dw i wedi dechrau dod yn fwy tawel fy meddwl a chyfeillgar a dw i’n cyfathrebu’n well.” 

Mae’r cwrs realiti rhithwir yn canolbwyntio ar dechnegau fel ymarferion anadlu, bwydo pysgod rhithwir, a synau ymdrochol i ymlacio cleifion a rheoli eu hanadlu. Wedi’i lansio’n ddiweddar gan y gwasanaeth iechyd yn Lloegr, gellid rhannu’r dull arloesol newydd hwn o drin pobl sy’n byw gyda chyflwr iechyd meddwl ledled Cymru. 

“Dw i wastad wedi bod yn dda gyda thechnoleg, felly dydw i erioed wedi cael problem gyda’r penset. Mae’n addasadwy iawn yn fy marn i,” meddai. 

“Mae’r realiti rhithwir yn fy nghefnogi i ganolbwyntio ar y byd ymdrochol, i ffwrdd o sŵn a straen bywyd bob dydd.  

“Mae’n fy helpu i reoli fy mhryderon a dw i’n datblygu fy hyder i ddelio ag un dydd ar y tro. Dw i eisoes wedi dechrau argymell y driniaeth i ffrindiau dw i’n gwybod y bydd o fudd iddyn nhw.” 

Meddai Steve Curry, Swyddog Datblygu Busnes yn New Horizons Health: “Dw i’n credu bod Pen y Cymoedd wedi gweld darlun ehangach y prosiect yma. 

“Rydyn ni’n annog ac yn hyrwyddo mwy o ystyriaeth i gynnal a gwella iechyd meddwl a llesiant pobl.” 

Ychwanegodd Janet Whiteman, Cyfarwyddwr New Horizons: “Mae’n wych bod Pen y Cymoedd wedi ariannu’r prosiect. Mae’n hyfryd teimlo’r gefnogaeth ac mae’r elusen wedi mynd o nerth i nerth.” 

Yn ôl Kate Breeze, cyfarwyddwr gweithredol Cronfa Gymunedol Fferm Wynt Pen y Cymoedd: “Rydyn ni wrth ein bodd yn cefnogi gwaith New Horizons sy’n mynd i’r afael â mater mor bwysig. 

“Mae’n braf gwybod bod Cronfa Gymunedol Fferm Wynt Pen y Cymoedd wedi helpu i hwyluso datblygiad y dechnoleg newydd yma, a gobeithio y caiff ei mabwysiadu ledled y wlad fel therapi i gefnogi iechyd meddwl a lles.” 

Meddai Josh Hall, uwch reolwr gweithrediadau yn Tend VR: “Mae Tend VR wrth eu bodd yn gweithio mewn partneriaeth â Chronfa Gymunedol Fferm Wynt Pen y Cymoedd a New Horizons. Mae’r prosiect cyffrous yma’n dangos sut y gall atebion digidol fel VR-MBCT ddarparu ymyriadau iechyd meddwl mewn cymunedau ledled gwledydd Prydain.” 


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The South Wales Chronicle