Bydd dau ar bymtheg o brosiectau amgueddfeydd, archifau a llyfrgelloedd ledled Cymru yn elwa o gyllid ychwanegol – gan helpu i gyflawni ymrwymiad Rhaglen Llywodraeth Cymru i ehangu mynediad at ddiwylliant – gyda dros £550,000 yn cael ei fuddsoddi mewn cymunedau ledled y wlad.
Caiff y cyllid ei ddyfarnu drwy Raglen Grant Cymorth Lleol Estynedig Llywodraeth Cymru i’r Sector Diwylliant ar gyfer Amgueddfeydd, Archifau a Llyfrgelloedd. Bydd yn caniatáu i brosiectau barhau â’u gweithgareddau tan ddiwedd mis Mawrth 2027, gan adeiladu ar waith sydd eisoes yn digwydd.
Bydd De Cymru yn elwa ar fuddsoddiad sylweddol ar draws y de-ddwyrain a’r de-orllewin, gyda 10 phrosiectau ym maes llyfrgelloedd, amgueddfeydd ac archifau.
- Ym Mlaenau Gwent, bydd Partneriaeth Ymgysylltu Ieuenctid y Llyfrgell Ddiwylliannol yn ymestyn rôl Cydlynydd Llyfrgelloedd Ieuenctid ac yn ehangu’r ymgysylltiad â phobl ifanc sydd heb gynrychiolaeth ddigonol.
- Bydd Prosiect Amgueddfeydd Digidol Treftadaeth a Hanes-Hi Merthyr Tudful yn ehangu ymgysylltiad ysgolion a llwybrau treftadaeth.
- Bydd Ap Digideiddio a Geocaching Hanes Lleol Casnewydd yn ehangu ei gynnwys digidol a’i ymgysylltu â’r gymuned, gan arddangos mwy o dreftadaeth leol amrywiol Casnewydd.
- Bydd Rhondda Cynon Taf yn ehangu mynediad y cyhoedd i’w chasgliadau amgueddfeydd a llyfrgelloedd drwy ddatblygu gwefannau a chynnwys digidol newydd.
- Bydd Bro Morgannwg yn bwrw ymlaen â’i Strategaeth Ddarllen leol, gan gefnogi ymyriadau llythrennedd a mentrau Cymraeg.
- Bydd prosiect O’r Archif i’r Amgueddfa Sir Fynwy yn ehangu catalogio archifau, ymgysylltu â gwirfoddolwyr a mynediad cyhoeddus i’w chasgliadau.
- Bydd Torfaen, ar ran Archifau Gwent a Chyngor Archifau a Chofnodion Cymru, yn cyflawni’r gweithgareddau ymgysylltu a’r gwaith digidol sy’n weddill o dan raglen Archifau Cymru Byw.
- Ym Mhen-y-bont ar Ogwr, bydd prosiect Ogwr Unlocked yn ehangu catalogio a dehongli treftadaeth, gan adeiladu ar y buddsoddiad a wnaed hyd yma.
- Ymhellach i’r gorllewin, bydd modd dod â chasgliadau hanes naturiol Abertawe’n fyw drwy weithdai celf newydd a gyflwynir gydag Oriel Gelf Glynn Vivian.
- Bydd Castell-nedd Port Talbot yn ymestyn ei rhaglen amgueddfeydd dros dro gyda llwyfan treftadaeth ddigidol newydd a gweithgarwch ymgysylltu ehangach â’r gymuned.
Dywedodd Heledd Fychan, y Gweinidog Cabinet dros Ddiwylliant a Chwaraeon:
“Mae amgueddfeydd, archifau a llyfrgelloedd yn ganolog i’n cymunedau, gan gysylltu pobl â’u hanes, â’u diwylliant ac â’i gilydd. Bydd y cyllid hwn yn caniatáu i brosiectau ym mhob cwr o Gymru adeiladu ar y cynnydd gwych y maen nhw wedi’i wneud yn barod, gan gyrraedd mwy o bobl, mewn mwy o leoedd, gyda’r straeon sy’n bwysig iddyn nhw.
“Hoffwn ddiolch i’r holl sefydliadau sydd wedi gweithio gyda ni i ddatblygu’r prosiectau hyn. Mae eu hymrwymiad parhaus at ennyn diddordeb cymunedau, diogelu ein treftadaeth ac ehangu mynediad at ddiwylliant yn gwneud gwahaniaeth go iawn, ac rwy’n falch ein bod ni’n gallu eu cefnogi nhw i estyn y gwaith hanfodol hwn tan fis Mawrth y flwyddyn nesaf.”
Dywedodd Annabelle Dennis, Rheolwr Prosiect yn Hanes-Hi ym Merthyr Tudful:
“Dim ond y dechrau yw Hanes-Hi. Trwy gyfuno gwefan Hanes-Hi â’n gosodiad ymgolli yn yr amgueddfa, sy’n dod â phortreadau a straeon menywod yn fyw, rydyn ni wedi creu platfform sy’n ysbrydoli ymgysylltu ac yn gwarchod hanes. Tra bo ymwelwyr yn gallu uniaethu â’r menywod rhyfeddol hyn drwy’r profiad ymgolli, mae’r wefan yn gweithio fel archif ddigidol barhaol a all barhau i dyfu wrth i straeon newydd gael eu datgelu a’u rhannu.
“Gyda’i gilydd, maen nhw’n sicrhau bod lleisiau menywod o Ferthyr Tudful nid yn unig yn cael eu clywed heddiw, ond yn cael eu gwarchod ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol, er mwyn sicrhau bod y rhai sydd wedi’u hanwybyddu gan hanes yn cael eu cydnabod a’u cofio am byth.”
Help keep news FREE for our readers
Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The South Wales Chronicle










