Home Cardiff Mentera yn lansio cyfres newydd o ddigwyddiadau i gefnogi diwydiannau creadigol Cymru

Mentera yn lansio cyfres newydd o ddigwyddiadau i gefnogi diwydiannau creadigol Cymru

0
36
Lavc58.35.100
Advertisement

Mae Mentera yn lansio cyfres o ddigwyddiadau ar gyfer y diwydiannau creadigol, er mwyn helpu’r sector i ddatblygu a ffynnu. Y nod yw dod â busnesau, entrepreneuriaid a gweithwyr llawrydd ynghyd i helpu i lunio cefnogaeth y dyfodol i’r sector. Bydd y gwaith yn dechrau drwy gynnal cyfres o ddigwyddiadau creadigol, ‘Diwydiannau Creadigol Cymru: Creu Cysylltiadau Creadigol’ ar hyd a lled Cymru, gan ddechrau yn Wrecsam, Caerfyrddin a Chaerdydd.

Bydd y digwyddiadau’n cynnig cyfle i bobl sy’n gweithio ar draws y sector creadigol rannu eu profiadau, trafod y gefnogaeth sydd eisioes yn bodoli, adnabod heriau a chyfleoedd, a chael dweud eu dweud ar y math o gymorth sydd ei angen i helpu busnesau creadigol i ffynnu.

Advertisement

Gan gydnabod pwysigrwydd cynyddol y sector i economi Cymru, bydd Mentera yn cynnal sgyrsiau agored gyda gweithwyr proffesiynol o ystod eang o feysydd creadigol, gan gynnwys cerddoriaeth, ffilm a theledu, dylunio, digidol, gemau, cyhoeddi, animeiddio, y celfyddydau gweledol a chreu cynnwys.

Yn hytrach na chynadleddau ffurfiol, bydd y sesiynau wedi’u cynllunio fel trafodaethau agored, gan roi cyfle i gyfranogwyr rannu eu safbwyntiau ar y gefnogaeth, y sgiliau, yr isadeiledd a’r cyfleoedd sydd eu hangen i gryfhau’r sector a chefnogi twf busnesau creadigol yng Nghymru.

Lavc58.35.100

Bydd y wybodaeth a’r mewnwelediadau a gesglir yn ystod y gyfres yn cael eu defnyddio i lunio pecyn cymorth ymarferol i fusnesau ac entrepreneuriaid creadigol. Bydd y pecyn yn cynnwys adnoddau, canllawiau ac arweiniad wedi’u datblygu’n uniongyrchol o’r adborth a gesglir gan y sector ei hun, gan sicrhau bod y gefnogaeth yn berthnasol ac yn ymateb i anghenion gwirioneddol busnesau creadigol Cymru.

Dywedodd Llŷr Roberts, Prif Weithredwr Mentera:

“Mae Cymru yn gartref i gyfoeth anhygoel o dalent, creadigrwydd ac ysbryd entrepreneuraidd. Trwy’r digwyddiadau hyn, ein nod yw gwrando ar leisiau’r sector, deall yr heriau a’r cyfleoedd sy’n wynebu busnesau creadigol heddiw, a sicrhau bod unrhyw gefnogaeth yn y dyfodol yn cael ei llywio gan y bobl sydd â’r profiad uniongyrchol o weithredu yn y maes.”

“Mae hwn yn gyfle i dynnu’r sector ynghŷd ac adnabod yr hyn sydd yn mynd i gyfrannu at lwyddiant y sector i dyfu a llwyddo mewn ffordd gynaliadwy. Credwn fod gan y sector greadigol rôl allweddol i’w chwarae yn economi Cymru’r dyfodol ac edrychwn ymlaen at adeiladu’r daith hon mewn partneriaeth â’r sector.”

Mae’r rhaglen yn nodi ymrwymiad ehangach gan Mentera i gefnogi a chryfhau ecosystem greadigol Cymru, gan greu cyfleoedd i fusnesau, entrepreneuriaid a gweithwyr llawrydd gydweithio, datblygu a ffynnu.

Archebwch eich lle er mwyn ymuno â digwyddiadau:

Digwyddiad Caerdydd:

Archebwch Tocyn: Creative Industries Wales: Creative Contacts Tickets, Wednesday, November 25  •  2 PM – 4:30 PM | Eventbrite


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The South Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here