
Mae Gyrfa Cymru wedi cyhoeddi naw enillydd ei Wobrau Partner Gwerthfawr 2025 mewn seremoni wobrwyo a gynhaliwyd yng Nghaerdydd ddydd Mercher, 15 Ionawr.
Roedd dau sefydliad o orllewin Cymru ymhlith yr enillwyr. Cydnabuwyd Canolfan S4C Yr Egin a Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda am eu cyfraniad rhagorol i gefnogi dysgwyr a chysylltu dysgu yn yr ystafell ddosbarth â gyrfaoedd.

Dyfarnwyd y cwmnïau fel a ganlyn:
- Hyrwyddwr Gorau’r Gymraeg yn y Gweithle – Canolfan S4C Yr Egin
- Gwobr Cyflawniad Eithriadol – Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
Mae Canolfan S4C Yr Egin wedi gwneud gwaith arbennig yn hyrwyddo defnyddio’r Gymraeg yn y gweithle, ac yn amlygu’r ffaith ei bod yn sgìl gwerthfawr i gyflogwyr. Darparodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda lawer o brofiadau cyfoethog i ddisgyblion trwy hyrwyddo gyrfaoedd yn y GIG, a thrwy ysbrydoli pobl ifanc i archwilio cyfleoedd ym maes gofal iechyd.
Mae’r Gwobrau Partneriaid Gwerthfawr mawreddog yn dathlu busnesau sydd wedi mynd y tu hwnt i ddisgwyliadau i ysbrydoli a chefnogi disgyblion ledled Cymru dros y flwyddyn ddiwethaf. Mae’r gwobrau’n gyfle i Gyrfa Cymru gydnabod y rôl hanfodol y mae cyflogwyr yn ei chwarae wrth rymuso pobl ifanc ag addysg gyrfaoedd a phrofiadau cysylltiedig â byd gwaith.

Cafodd yr enillwyr eu cyhoeddi’n fyw gan gyflwynydd y digwyddiad, Sian Lloyd, yn Y Neuadd yn adeilad y Senedd ym Mae Caerdydd.
Dywedodd Llinos Jones, Rheolwr Ymgysylltu Canolfan S4C Yr Egin: “Mae ennill y wobr hon yn golygu llawer iawn i ni, wrth i ni weithio’n agos gyda Gyrfa Cymru i ymgysylltu pobl ifanc â byd gwaith. Nhw yw dyfodol y gweithle, ac mae’n hanfodol ein bod yn neilltuo amser ac yn rhannu ein harbenigedd i helpu i’w datblygu’n weithwyr proffesiynol medrus ar gyfer y diwydiant. Yn S4C Yr Egin, rydym yn gweithredu trwy gyfrwng y Gymraeg bob dydd, felly mae’n wych arddangos hyn i fyfyrwyr ac amlygu pwysigrwydd y Gymraeg yn ein diwydiant.”
Dywedodd Amanda Glanville, Cyfarwyddwr Datblygu Pobl Cynorthwyol ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Mae’n anrhydedd llwyr derbyn y wobr Cyflawniad Eithriadol hon ar ran Hywel Dda. Credwn fod buddsoddi mewn pobl wrth wraidd darparu gofal iechyd ac adeiladu cymunedau cryfach. Dyna pam rydyn ni mor falch o gael ein cydnabod am ein gwaith ym maes datblygu gyrfaoedd ac arloesi’r gweithlu. Mae’r wobr hon yn golygu llawer oherwydd mae’n cydnabod ein hymdrechion i ddatblygu llwybrau, cyfleoedd a phartneriaethau sy’n ysbrydoli ac yn cefnogi’r genhedlaeth nesaf.”
Dywedodd Nikki Lawrence, Prif Weithredwr Gyrfa Cymru: “Llongyfarchiadau i holl enillwyr y Gwobrau Partneriaid Gwerthfawr eleni, ac i bawb a gyrhaeddodd y rhestr fer. Mae’r busnesau hyn wedi darparu profiadau cysylltiedig â byd gwaith eithriadol, gan helpu pobl ifanc ledled Cymru i ddatblygu eu sgiliau, eu gwybodaeth a’u hyder ar gyfer eu dyfodol.
“Mae’n bleser eu cydnabod a diolch iddyn nhw am eu hymrwymiad, ac edrychwn ymlaen at barhau â’r gwaith pwysig hwn gyda’n gilydd.”

Dywedodd Jack Sargeant, y Gweinidog Diwylliant, Sgiliau a Phartneriaeth Gymdeithasol: “Mae’r gydnabyddiaeth hon yn amlygu ymroddiad busnesau Cymru a’r effaith y maent yn ei gael wrth lunio dyfodol pobl ifanc.
“Llongyfarchiadau i’r holl enillwyr ac i’r enwebeion am eu hymrwymiad i rymuso’r genhedlaeth nesaf drwy feithrin eu sgiliau, magu eu hyder a chynnig profiadau gyrfa amhrisiadwy. Mae eich ymdrechion yn ysbrydoledig!”
Enillwyr Gwobrau Partneriaid Gwerthfawr 2025:
Gwobr Cyflawniad Eithriadol:
Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
Y Newydd-ddyfodiad Gorau:
Morlais
Y Berthynas Barhaus Orau ag Ysgol:
BBC Studios a BBC Cymru Wales
Y Busnes Bach Mwyaf Cefnogol:
Grounds for Good
Cyfraniad Personol Eithriadol:
Catrin Leader, Bute Energy
Gwenno Angharad Williams, Cyngor Gwynedd
Y Cyflogwr Profiad Gwaith Mwyaf Cefnogol:
Westward Energy Services

Hyrwyddwr Gorau’r Gymraeg yn y Gweithle:
Canolfan S4C Yr Egin
Cefnogwr Gorau’r Agenda Sero Net:
Viridor
Gallwch ddarllen mwy am y gwobrau a’r enillwyr ar wefan Gyrfa Cymru.
Help keep news FREE for our readers
Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The South Wales Chronicle











