Home Awards Cyhoeddi enwau cyflogwyr y Canolbarth yn rownd derfynol Gwobrau Partner Gwerthfawr Gyrfa...

Cyhoeddi enwau cyflogwyr y Canolbarth yn rownd derfynol Gwobrau Partner Gwerthfawr Gyrfa Cymru 2025   

0
266
Advertisement

Mae dau fusnes o’r Canolbarth wedi cyrraedd rownd derfynol Gwobrau Partneriaid Gwerthfawr Gyrfa Cymru 2025.   

Ymhlith y 36 o sefydliadau a gydnabyddir am eu cyfraniad rhagorol i gefnogi dysgwyr a chysylltu dysgu yn yr ystafell ddosbarth â gyrfaoedd, mae dau yn cynrychioli’r Canolbarth.   

Cynhelir y gwobrau eleni ddydd Mercher, 15 Ionawr 2025, yn y Neuadd yn y Senedd, Bae Caerdydd. Y newyddiadurwraig Sian Lloyd fydd yn llywio’r seremoni. 

Advertisement

Mae’r Gwobrau Partneriaid Gwerthfawr yn gyfle i Gyrfa Cymru gydnabod y rôl hanfodol y mae cyflogwyr yn ei chwarae wrth rymuso pobl ifanc i ymgysylltu â gyrfaoedd a phrofiadau byd gwaith. 

Mae’r cyflogwyr o’r Canolbarth wedi’u henwebu yn y categorïau canlynol:   

  • Newydd-ddyfodiad gorau: Nidec Control Techniques Ltd 
  • Cyfraniad personol eithriadol: Catrin Leader, Bute Energy 

Dywedodd Nikki Lawrence, Prif Weithredwr Gyrfa Cymru: “Rydym yn falch iawn o gyhoeddi enwau’r sefydliadau sydd ar restr fer Gwobrau Partneriaid Gwerthfawr 2025. Mae’r digwyddiad hwn yn gyfle arbennig i ddathlu’r gwaith anhygoel mae cyflogwyr yn ei wneud i gefnogi pobl ifanc ledled Cymru. 

“Mae’r gwobrau’n dathlu busnesau sy’n mynd gam ymhellach i roi profiadau go iawn i ddisgyblion ac yn eu grymuso â gwybodaeth, sgiliau ac anogaeth sy’n gysylltiedig â byd gwaith a fydd yn eu helpu i lunio eu dyfodol.   

“Rydym yn edrych ymlaen at groesawu cyflogwyr teilwng y rownd derfynol i’r Senedd ym mis Ionawr ac at ddathlu eu llwyddiannau. Llongyfarchiadau i bawb ar y rhestr fer!” 

Darllenwch ragor am y Gwobrau Partneriaid Gwerthfawr, ac am enillwyr y llynedd, ar wefan Gyrfa Cymru. I gael rhagor o wybodaeth am waith a chyflawniadau Gyrfa Cymru, darllenwch yr Adroddiad Blynyddol diweddaraf sydd ar gael yma: Ein hadroddiad blynyddol | Gyrfa Cymru. 


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The South Wales Chronicle