Home Newyddion Lle Taith gerdded ar y traeth yn helpu i godi ymwybyddiaeth o hunanladdiad

Taith gerdded ar y traeth yn helpu i godi ymwybyddiaeth o hunanladdiad

0
408
Walkers stepping out to raise awareness of suicide prevention at a previous Swansea HOPEWALK.
Advertisement

Mae Prifysgol Abertawe unwaith eto wedi cydweithio â PAPYRUS i gynnal taith gerdded ar y traeth i helpu i godi ymwybyddiaeth o hunanladdiad.

Cynhelir HOPEWALK eleni ddydd Sul 13 Hydref er budd PAPYRUS yr elusen atal hunanladdiad sy’n cynnig cymorth a chyngor cyfrinachol i bobl ifanc. 

Dylai staff a myfyrwyr o’r Brifysgol ac aelodau’r cyhoedd sydd am gymryd rhan gwrdd ger y Secret Beach Bar and Kitchen ar Heol y Mwmbwls, Abertawe am 10am.

Advertisement

Bydd y taith gerdded gylchol tair milltir o hyd yn mynd tua Blackpill ar hyd y traeth a’r llwybr cerdded glan môr. 

Bellach yn ei chweched flwyddyn yn Abertawe, mae cyfranogwyr y daith gerdded wedi codi mwy na £2,200 ar gyfer yr elusen, ac mae Rheolwr Iechyd Meddwl a Chwnsela Bywyd Myfyrwyr, Siân Bengeyfield, wedi cymryd rhan bob blwyddyn. 

Meddai: “Mae’n ddigwyddiad gwych, ac rydyn ni’n falch o weithio gyda PAPYRUS i godi ymwybyddiaeth o hunanladdiad a hyrwyddo cefnogaeth ar gyfer ei gwaith amhrisiadwy gyda phobl ifanc yn ein cymuned sy’n achub bywydau. 

“Yma yn Abertawe, mae iechyd meddwl, lles ac atal hunanladdiad yn flaenoriaethau i ni, ac mae gweithio mewn partneriaeth â gwasanaethau hanfodol megis Papyrus yn ein galluogi i ddatblygu a chefnogi ein sgiliau yn y maes hwn.”

Mae PAPYRUS yn cynnal cyfres o ddigwyddiadau HOPEWALK ledled y DU yn ystod mis Hydref. Dylai unrhyw un a hoffai gymryd rhan yn y digwyddiad yn Abertawe gofrestru a/neu roi drwy’r dudalen JustGIVING.

Yn y DU, mae mwy o bobl ifanc yn marw o ganlyniad i hunanladdiad nag unrhyw achos arall: nod y digwyddiad yw codi ymwybyddiaeth er mwyn helpu pobl ifanc i gael y cymorth mae ei angen arnynt.

Cred PAPYRUS fod modd atal llawer o hunanladdiadau ifanc. Mae’n gweithredu HOPELINE247, llinell gymorth gyfrinachol sydd ar gael dros y ffôn, drwy decstio ac e-bostio i bobl ifanc sy’n meddwl am hunanladdiad, neu bobl o unrhyw oedran sy’n poeni am berson ifanc a allai fod yn meddwl am hunanladdiad.   Mae pob £1 a godir yn mynd tuag at dalu am gyswllt â HOPELINE247 a allai achub bywyd.

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â Carl Ely: c.k.ely@abertawe.ac.uk  

Caption:

Cerddwyr yn codi ymwybyddiaeth o hunanladdiad mewn HOPEWALK blaenorol yn Abertawe.

DIWEDD

Defnyddiwch hyperddolenni Prifysgol Abertawe wrth adrodd y stori hon, os gwelwch yn dda.

Mae Prifysgol Abertawe, a sefydlwyd ym 1920, yn brifysgol ar ddau gampws a arweinir gan ymchwil ym mae Abertawe yn ne Cymru yn y DU. Oherwydd ei champysau glan môr trawiadol a’i chroeso cynnes, mae Prifysgol Abertawe’n gyrchfan dymunol i fwy na 22,000 o fyfyrwyr o bedwar ban byd. Mae tair cyfadran academaidd, sy’n cyflwyno oddeutu 450 o raglenni gradd israddedig a 350 o raglenni gradd ôl-raddedig. 

Mae Abertawe ymysg y 30 o sefydliadau gorau yn y DU, ar ôl cyrraedd safle 25 yn The Guardian University Guide 2024. Yn Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil 2021, nodwyd bod 86% o ymchwil cyffredinol a 91% o amgylchedd ymchwil y Brifysgol yn arwain y byd ac yn rhagori’n rhyngwladol, gydag 86% o effaith ei hymchwil yn rhagorol ac yn sylweddol iawn.

Mae Prifysgol Abertawe yn elusen gofrestredig. Rhif elusen: 1138342.  

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â Kathy Thomas yn Swyddfa’r Wasg Prifysgol Abertawe. Ffoniwch 01792 604290, neu e-bostiwch:  katherine.thomas@abertawe.ac.uk 


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The South Wales Chronicle