Home Newyddion Lle Cyngor Teithio yr Eisteddfod

Cyngor Teithio yr Eisteddfod

0
415
Eisteddfod
Advertisement

Bydd Trafnidiaeth Cymru (TrC) yn croesawu miloedd o deithwyr i ŵyl ddiwylliannol fwyaf Ewrop.

Cynhelir yr Eisteddfod, sy’n ddathliad o’r iaith Gymraeg a diwylliant Cymreig, rhwng 3 a 10 Awst ym Mharc Coffa Ynysangharad, Pontypridd.

Fel partner trafnidiaeth allweddol, mae TrC wedi bod yn gweithio’n agos gyda’r Eisteddfod a Chyngor Rhondda Cynon Taf er mwyn annog pobl i ddefnyddio opsiynau teithio gwyrdd i gyrraedd y Maes.

Advertisement

Bydd gwasanaethau trên yn rhedeg yn rheolaidd drwy gydol y dydd ac yn hwyr gyda’r nos yn ystod yr Eisteddfod ac anogir ymwelwyr sy’n bwriadu defnyddio’r rheilffyrdd i gynllunio ymlaen llaw.

Gall cwsmeriaid gyrraedd Pontypridd ar y trên o wahanol leoliadau. Mae gwasanaethau ar gael o Aberdâr, Merthyr Tudful, Treherbert a Chaerdydd sy’n darparu mynediad uniongyrchol i Bontypridd.

Bydd angen i deithwyr sy’n bwriadu teithio o Ben-y-bont ar Ogwr, Ynys y Barri, Penarth neu Rhymni newid yng Nghaerdydd Heol y Frenhines neu yng Nghaerdydd Canolog. Chwiliwch am drenau sy’n teithio i Ferthyr Tudful, Aberdâr neu Dreherbert, gan y bydd pob un o’r gwasanaethau hyn yn galw ym Mhontypridd.

Yn ogystal â hyn, gall y rhai sy’n dal y trên o Gaerdydd Heol y Frenhines neu Fae Caerdydd fanteisio ar y gwasanaeth uniongyrchol newydd i Bontypridd.

Dywedodd Colin Lea, Cyfarwyddwr Cynllunio a Pherfformiad TrC:

“Gyda’r Eisteddfod Genedlaethol yn dychwelyd i Rondda Cynon Taf am y tro cyntaf ers bron i 70 mlynedd, rydym yn cydnabod pwysigrwydd y digwyddiad i’r ardal, ac i Bontypridd yn enwedig, lle mae gennym ein pencadlys.

Er mwyn darparu ar gyfer y mewnlifiad o ymwelwyr a ddisgwylir, rydym wedi gweithredu cynllun cynhwysfawr sy’n cynnwys gwasanaethau ychwanegol drwy gydol yr wythnos a phresenoldeb llawer o gydweithwyr ar y rhwydwaith i helpu cwsmeriaid.

Rydym yn edrych ymlaen yn fawr at groesawu ymwelwyr i’r dref ac yn dymuno pob lwc i’r holl gystadleuwyr.”

Ychwanegodd Betsan Moses, Prif Weithredwr yr Eisteddfod:

“Mae’r Eisteddfod Genedlaethol wedi ymrwymo i hyrwyddo ac annog ein hymwelwyr i ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus wrth ymweld â’r ŵyl.

Caiff Pontypridd ei gwasanaethu’n dda iawn gan opsiynau trafnidiaeth gyhoeddus, ac rydym yn falch iawn o weithio gyda Trafnidiaeth Cymru i hyrwyddo opsiynau teithio cynaliadwy.

Lleolir y Maes funudau’n unig o’r orsaf drenau ac mae’n gyfle gwych i adael eich car gartref a mwynhau diwrnod yn yr Eisteddfod.”


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The South Wales Chronicle