Home Awards CYHOEDDI TEILYNGWYR GWOBRAU ADDYSGU CYMRU

CYHOEDDI TEILYNGWYR GWOBRAU ADDYSGU CYMRU

0
414
The College Merthyr Tydfil Inspire to Achieve Team
Advertisement

Mae saith ar hugain o addysgwyr proffesiynol o Gymru wedi cyrraedd rhestr fer y gwobrau cenedlaethol sy’n dychwelyd â chategori newydd

Eleni, mae saith ar hugain o addysgwyr proffesiynol wedi cyrraedd rhestr fer Gwobrau Addysgu Proffesiynol Cymru, sy’n dathlu gweithlu addysgu ysbrydoledig Cymru. Mae’r gwobrau bellach yn eu chweched flwyddyn. 

Advertisement

Am y tro cyntaf erioed roedd y gwobrau, sy’n dathlu gwaith ardderchog ein gweithlu addysg yng Nghymru, yn agored i golegau yn ogystal ag ysgolion. 

Derbyniwyd enwebiadau ar gyfer yr addysgwyr proffesiynol mwyaf ysbrydoledig, talentog ac ymroddgar, gan rieni, gofalwyr, dysgwyr a chydweithwyr ledled Cymru.

Rebecca Forward (Ysgol Bryn Derw ASD Special School, Newport)

Mae 10 categori’r gwobrau’n cynnwys: Pennaeth y Flwyddyn, Defnyddio’r Gymraeg mewn modd sy’n ysbrydoli, Athro Newydd Eithriadol, Athro’r Flwyddyn mewn Ysgol Gynradd, Gwobr y Dysgwyr am yr Athro/Darlithydd Gorau, Athro’r Flwyddyn mewn Ysgol Uwchradd, Cynorthwyydd Cymorth Dysgu, a Gwobr Betty Campbell (MBE) am hyrwyddo cyfraniadau a safbwyntiau cymunedau Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol. Yn ogystal mae dwy wobr newydd eleni, sef Darlithydd y Flwyddyn ac Ymgysylltiad Dysgwyr yn yr Ysgol/Coleg.

Crëwyd gwobr newydd Ymgysylltiad Dysgwyr yn yr Ysgol/Coleg er mwyn gwobrwyo ysgol neu goleg sy’n dangos agwedd ardderchog i wella ymgysylltiad a phresenoldeb dysgwyr. 

Mae tair ysgol / coleg wedi mynd y tu hwnt i’r gofyn er mwyn gwella ymgysylltiad dysgwyr ac yn deilyngwyr ar gyfer gwobr newydd Ymgysylltiad Dysgwyr, sef Ysgol Gatholig Bishop Vaughan, Coleg Gŵyr Abertawe, a Choleg Merthyr Tudful.

Mae ymgysylltiad yn yr ysgol/coleg yn cael effaith ar gyrhaeddiad, lles a dinasyddiaeth, ac mae’r wobr yn dathlu’r gefnogaeth y mae dysgwyr yn ei dderbyn yn y maes hwn.

Mae Sadie Thackaberry (Coleg Cambria, Yr Wyddgrug), Emma Smith (Coleg Gŵyr, Abertawe) a Katie Davies (Coleg Pen-y-bont ar Ogwr) yn deilyngwyr ar gyfer gwobr newydd Darlithydd y Flwyddyn.


Dywedodd Lynne Neagle, Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg: “Mae’n bleser gen i gyhoeddi’r teilyngwyr ar gyfer Gwobrau Addysgu Proffesiynol Cymru eleni. Fe dderbyniwyd y nifer uchaf o enwebiadau erioed, ac fel bob amser, roedd safon y gystadleuaeth yn eithriadol, gan ddangos mor ysbrydoledig yw’r addysgwyr proffesiynol sydd gyda ni yng Nghymru. 

“Eleni roedden ni am gydnabod y gwaith da sy’n digwydd yng Nghymru i wella ymgysylltiad a phresenoldeb dysgwyr. Er bod nifer o’r pryderon ynglŷn â lles pobl ifanc yn bodoli cyn pandemig COVID-19, mae’r pandemig wedi cyflwyno cymhlethdodau pellach. Mae’r wobr newydd ar gyfer ‘Ymgysylltiad Dysgwyr yn yr Ysgol/Coleg’ yn gydnabyddiaeth o’r timoedd anhygoel a’r unigolion hynny sy’n gweithio’n galed i sicrhau bod cefnogaeth ychwanegol ar gael.”

“Rydw i’n edrych ymlaen at ddathlu’r unigolion brwdfrydig ac arbennig hynny sydd wedi ymrwymo i gael y gorau o’u dysgwyr.”

Ymunwch â’r sgwrs gyda #GwobrauAddysguCymru2024 neu dilynwch @LlC_Addysg.
Am ragor o fanylion ewch i: https://www.llyw.cymru/gwobrau-addysgu-proffesiynol-cymru 


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The South Wales Chronicle