Home Awards Cynghorydd gyrfa o Abertawe yn ennill gwobr genedlaethol fawreddog    

Cynghorydd gyrfa o Abertawe yn ennill gwobr genedlaethol fawreddog    

0
320
Careers Wales team members attending the UKCDAs
Advertisement

Mae cynghorydd gyrfa o Abertawe wedi ennill Gwobr Datblygu Gyrfa y DU (UKCDA). 

Mae Annmarie Wills, cynghorydd gyrfa Cymru’n Gweithio yn Gyrfa Cymru, wedi ennill gwobr Gweithiwr Proffesiynol Datblygu Gyrfa’r Flwyddyn yn y Sector Cyhoeddus am ei dull arloesol a’i hymroddiad i gefnogi carcharorion gyda’u camau nesaf. 

Cyflwynwyd y wobr fawreddog i Annmarie gan y Sefydliad Datblygu Gyrfa yn y seremoni yn Derby ddydd Mawrth, 18 Mehefin 2024. 

Advertisement

Fel cynghorydd gyrfa sydd wedi’i leoli yng Ngharchar Ei Fawrhydi Abertawe, mae Annmarie yn cefnogi carcharorion i archwilio llwybrau gyrfa ystyrlon wrth baratoi ar gyfer eu rhyddhau. 

Mae Annmarie yn darparu cymorth un i un ar gyfer cynllunio gyrfa ac mae hefyd yn cefnogi carcharorion i gael mynediad at ystod o gyllid galwedigaethol, gan gynnwys ReAct+. Mae hi wedi darparu cymorth iaith i garcharorion â rhwystrau iaith ac wedi defnyddio amrywiaeth o ddulliau creadigol, gan gynnwys offer realiti rhithwir, i roi cipolwg ar swyddi a llwybrau gyrfa nad ydynt efallai wedi’u hystyried o’r blaen. 

O ganlyniad i gyfarwyddyd a chymorth gyrfa Annmarie, roedd cyfanswm o 183 o unigolion wedi mynd i addysg, gwaith neu hyfforddiant ar adeg enwebiad Annmarie am wobr, ac maent bellach yn cyfrannu at yr economi leol yn Abertawe a ledled Cymru. 

Yn ogystal â darparu anogaeth gyrfaoedd, mae Annmarie yn sicrhau bod gan garcharorion fynediad at wasanaeth asiantaethau a all eu cefnogi i oresgyn rhwystrau, gan gynnwys tai, camddefnyddio sylweddau ac iechyd meddwl. 

Dywedodd Annmarie: “Roedd ennill y wobr yn syndod gwirioneddol. Rwyf mor falch ac yn hynod ddiolchgar i gael cydnabod fy ngwaith ac effaith hynny.  

“Hoffwn ddiolch i dîm ehangach Cymru’n Gweithio am eu cefnogaeth. Mae’r anogaeth a’r cymorth a gefais wedi rhoi hyder i mi fod yn greadigol a rhoi syniadau newydd ar waith er mwyn helpu’r carcharorion gyda’u cynlluniau gyrfa.  

“Rwyf hefyd yn ddiolchgar i staff Carchar Ei Fawrhydi Abertawe am eu hymrwymiad i ganiatáu i mi wneud y gwaith hwn er mwyn llunio dyfodol cadarnhaol i’r carcharorion rwy’n eu cefnogi.”   

Dywedodd Nikki Lawrence, Prif Weithredwr Gyrfa Cymru: “Rwy’n falch iawn o weld Annmarie yn ennill Gweithiwr Proffesiynol Datblygu Gyrfa’r Flwyddyn yn y Sector Cyhoeddus. 

“Mae Annmarie wedi dangos creadigrwydd ac arloesedd wrth ddarparu cymorth gyrfaoedd cyfannol i’r troseddwyr y mae’n gweithio gyda nhw, gan wneud ymdrech arbennig i’w helpu i gyflawni eu potensial. 

“Mae’r gefnogaeth y mae Annmarie wedi’i darparu wedi cael effaith hynod gadarnhaol ar adsefydlu carcharorion yng ngharchar Abertawe, ac mae’n wych iddi ennill cydnabyddiaeth am hyn.” 

Enwyd Gyrfa Cymru yn rownd derfynol dau gategori ychwanegol yng Ngwobrau Datblygu Gyrfa y DU eleni: 

  • Gwobr Defnydd o Dechnoleg wrth Ddatblygu Gyrfa 
  • Gwobr Gweithgarwch Ymgysylltu â Chyflogwyr Arloesol 

Mae rhagor o wybodaeth am Wobrau Datblygu Gyrfa y DU ar gael ar eu gwefan. Am wybodaeth a chefnogaeth gyrfaoedd, ewch i Cymru’n Gweithio


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The South Wales Chronicle