Home Neath Port Talbot Cyngor i Lansio Cynllun Camu i Lawr Maethu Plus Newydd

Cyngor i Lansio Cynllun Camu i Lawr Maethu Plus Newydd

0
523
Advertisement

Mae Cyngor Castell-nedd Port Talbot ar fin lansio’n gynllun Camu i Lawr Maethu Plus, a gynlluniwyd i gefnogi pontio pobl ifanc mewn gofal o gartrefi plant i fyw gyda theuluoedd maethu lleol.

Gwahoddir gofalwyr maeth presennol a darpar ofalwyr i fynychu digwyddiad gwybodaeth picio i mewn yn Neuadd Gwyn ddydd Llun 19 Chwefror 2024, o 10:30 tan 14:30. Bydd mynychwyr yn cael y cyfle i siarad â’r bobl sy’n ymwneud yn uniongyrchol â darparu’r cynllun a holi cwestiynau.

Mae’r cynllun yn targedu plant a phobl ifanc sy’n barod i symud i gartref maeth ond sydd ar hyn o bryd yn byw tu fas i’r ardal. Yn aml, mae angen lefel uwch o ofal a chefnogaeth ar y plant hyn, oherwydd profiadau fel rhianta anodd, gweld neu ddioddef trais domestig, cam-drin sylweddau, neu esgeulustod, gan arwain at anghenion corfforol, emosiynol ac ymddygiad cymhleth.

Advertisement

Bydd gofalwyr sy’n cymryd rhan yn y cynllun yn elwa o hyfforddiant uwch a chefnogaeth gan arbenigwyr, gan gynnwys:

Mynediad i system ar alw i dderbyn cyngor a chymorth

Gweithiwr cymdeithasol penodedig i roi cefnogaeth reolaidd

Ymwneud â thîm therapiwtig profiadol, gan gynnwys seicolegydd, gweithwyr cymdeithasol arbenigol, a gweithwyr allgyrraedd.

Arweiniad i ddeall y trawma a brofwyd gan y plentyn mewn gofal

Hyfforddiant mewn dulliau rhianta therapiwtig, gan gynnwys cymhwyster arbenigol Maethu Therapiwtig Lefel 2

Bydd gofalwyr yn derbyn taliad wythnosol ar gyfer y plant yn eu gofal. Mae’r taliad yn cynnwys dwy ran: lwfans y gofalwr maeth (lwfans wythnosol o £800) a lwfansau’r plentyn.

Yn ôl Keri Warren, Pennaeth Gwasanaethau Plant a Phobl Ifanc yng Nghyngor Castell-nedd Port Talbot: “Mae byw fel rhan o deulu maeth yn cyflawni canlyniadau gwell i’r rhan fwyaf o blant sydd eisoes yn cael eu cefnogi gan ofal yr awdurdod lleol.

“Mae’n helpu gydag adeiladu hyder a ffurfio cyfeillgarwch, ac mae’n galluogi plant i ddilyn eu diddordebau yn eu cymuned eu hunain.

“Mae bywyd cartref sefydlog yn helpu mynychu’r ysgol ac mae’n annog pobl ifanc i ddatblygu’r sgiliau angenrheidiol ar gyfer achub ar gyfleoedd yn y dyfodol ar gyfer mynd i’r coleg a chael swydd.

“Mae gen i ddiddordeb hefyd mewn clywed oddi wrth ein gofalwyr maeth presennol sydd wedi ennill profiad ar hyd y blynyddoedd, ac sy’n meddu ar record profedig o gefnogi pobl ifanc mewn gofal maeth i gyflawni’u huchelgais.”

Os ydych chi’n meddwl y gallech chi wneud gwahaniaeth i fywyd person ifanc, cysylltwch os gwelwch yn dda, i chi gael dechrau ar eich taith heddiw.

I’r rheiny na allan nhw fynychu’r digwyddiad, gellir cael mwy o wybodaeth am y cynllun Camu i Lawr Maethu Plus drwy ffonio 01639 685866 neu e-bostio fostering@npt.gov.uk . Fel arall, ewch i https://npt.fosterwales.gov.wales/foster-plus/


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The South Wales Chronicle