Mae myfyriwr sy’n gwirfoddoli gyda grŵp sgowtiaid lleol yn Abertawe wedi derbyn Gwobr Gymdogol am ei chyfraniad i’r gymuned, ar ôl cael ei henwebu gan arweinydd y sgowtiaid.
Mae Niamh Dorrington, sy’n astudio nyrsio ac yn byw yn Abertawe, yn gwirfoddoli fel arweinydd sgowtiaid gyda 32ain Grŵp Parc Teras Rhyddings Abertawe. Mae wedi bod yn gwneud hyn am y tair blynedd diwethaf, gan brofi ei bod yn arweinydd ac yn drefnydd rhagorol.
Y gwaith hwn, sydd o fudd i blant a phobl ifanc leol, wnaeth ysgogi arweinydd y sgwotiaid, Ben Ball, i enwebu Niamh am y wobr hon.
Cynhelir y cynllun gwobrwyo hwn gan dîm cymunedol y Brifysgol. Mae’r gwobrau ar gyfer myfyrwyr sy’n gwneud cyfraniad i’r gymuned leol neu’n dangos ymddygiad rhagorol fel cymdogion. Mae hyn yn cynnwys dod i adnabod cymdogion, bod yn ystyriol o sŵn yn ystod y dydd a’r nos, a gwaredu gwastraff yn gywir.
Gall preswylwyr lleol enwebu myfyrwyr ar gyfer y wobr.
Meddai Steph Standen, swyddog cyswllt cymunedol ym Mhrifysgol Abertawe: “Mae myfyrwyr Prifysgol Abertawe’n breswylwyr hefyd yn eu cymunedau lleol. Mae’r Brifysgol yn annog myfyrwyr i fod yn aelodau gwerthfawr o’r gymdeithas ac rydym am hyrwyddo cysylltiadau cymunedol cadarnhaol, sef gwaith penodol ein tîm Cymuned@BywydCampws.
“Gwnaeth ein tîm sefydlu’r Wobr Gymdogol i gydnabod a gwobrwyo myfyrwyr fel Niamh sy’n gwneud cyfraniad cadarnhaol i’n cymuned leol. Byddem yn dwlu cael mwy o enwebiadau gan breswylwyr lleol”.
Meddai Niamh Dorrington: “Roedd hi’n fraint ac yn anrhydedd cael derbyn y wobr hon. Rwy’n ddiolchgar iawn fy mod wedi cael cydnabyddiaeth am fy ngwaith gyda’r sgowtiaid yn ogystal ag astudio a gweithio ar gyfer fy ngradd”Rwyf wir yn mwynhau gwirfoddoli fel arweinydd sgowtiaid ac mae hi’n werthfawr bod yn rhan o’r gymuned mewn rhywbeth nad yw’n ymwneud â’r brifysgol yn ogystal â rhai o gymdeithasau’r brifysgol. Diolch i Ben am fy enwebiad, mae’n hyfryd gwybod bod fy amser a’m gwaith yn cael eu gwerthfawrogi”.
Mae tîm Cymuned@BywydCampws hwnt ac yma’n rheolaidd yn y gymuned leol yn delio â phroblemau ac yn helpu preswylwyr lleol a myfyrwyr oddi ar y campws fel ei gilydd. Yn aml byddan nhw’n ymuno â Swyddog Cymorth Cymunedol yr Heddlu ar eu hymweliadau cymunedol.
Sut i enwebu myfyrwyr ar gyfer Gwobr Gymdogol:
Ydych chi’n adnabod myfyriwr neu fyfyrwyr ystyrlon neu gymwynasgar sy’n byw yn eich cymuned? Gall hwn fod yn fyfyriwr unigol, yn dŷ o fyfyrwyr neu’n gymdeithas.
Rhowch wybod i ni fel y gallwn roi’r gydnabyddiaeth y mae nhw’n ei haeddu a chael rhodd gan y Brifysgol.
Anfonwch neges e-bost atom: community.campuslife@abertawe.ac.uk a byddwn yn anfon dolen atoch i ffurflen fer i chi ei llenwi
Neu gallwch ysgrifennu atom: Tîm Cymuned @BywydCampws, Adeilad Talbot, Prifysgol Abertawe SA2 8PP.
Help keep news FREE for our readers
Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The South Wales Chronicle












