Home Competition Chwech yn y rownd derfynol ar gyfer cystadleuaeth Cigydd Crefft Cymreig y...

Chwech yn y rownd derfynol ar gyfer cystadleuaeth Cigydd Crefft Cymreig y Flwyddyn

0
612
Cigyddion mewn rownd derfynol Cigydd Crefft y Flwyddyn y llynedd.
Advertisement

Bydd chwe chigydd yn edrych i brofi eu bod yn well na’r lleill wrth iddyn nhw arddangos eu sgiliau mewn rownd derfynol Cigydd Crefft Cymreig y Flwyddyn ddydd Llun.

Cynhaliwyd y gystadleuaeth ar ddiwrnod cyntaf Pencampwriaeth Coginio Ryngwladol Cymru (WICC) yng Nghanolfan Gynadledda Ryngwladol Cymru (ICC Cymru), Casnewydd rhwng 22 a 24 Ionawr, 2024. Mae’r digwyddiad yn agored ac yn rhad ac am ddim i’r cyhoedd a masnach lletygarwch.

Noddir y rownd derfynol gan Gymdeithas Goginio Cymru (CAW) a Chwmni Hyfforddiant Cambrian, ac mae’n dwyn ynghyd y cigyddion gorau o Gymru.

Advertisement

Y rhai sy’n cystadlu am y teitl yw Ben Roberts, perchennog Astley & Stratton Ltd, Fardndon, ger Caer; Philip Tucker o Tuckers Butchers, Y Mwmbwls; Ieuan Hughes o Golden Valley Meat & Game, Grosmont, Y Fenni; Ieuan Pincott o Oriel Jones, Canton, Caerdydd; Jack Hefford o Morrisons, Y Porth; ac Elis Morris o Daniel Morris Butchers, Yr Wyddgrug.

Bydd cigyddion yn ymgymryd â dwy dasg i ddangos eu sgiliau i’r beirniaid o Dîm Cigyddiaeth Crefft Cymru. Bydd ganddynt 30 munud i dorri Cig Oen cyfan yn gymalau cyntefig, yn ogystal â glanhau eu gweithle.

Ar gyfer yr ail dasg, bydd ganddynt 1 awr ac 20 munud i gynhyrchu arddangosfa gyffrous cig er mwyn ei werthu sy’n dangos eu sgiliau a’u creadigrwydd.

Bydd yn rhaid i gystadleuwyr hefyd greu o leiaf dau gynnyrch cig oen union yr un fath o ran ymddangosiad a maint, y bydd y beirniaid yn ei pwyso ac yn gwirio am gysondeb.

Bydd y beirniaid yn chwilio am sgiliau technegol, arloesedd, creadigrwydd a disgrifiad manwl o bob cynnyrch a grëir, ynghyd â chyfarwyddiadau coginio

Mae’r gystadleuaeth ar agor i gigyddion Cymru, 16 oed neu hŷn yn unig, a gall fod yn gweithio neu’n astudio ar gyfer cymhwyster mewn coleg neu sefydliad unrhyw le yn y byd.

Gallai’r gystadleuaeth fod yn gam tuag at Dîm Cigyddiaeth Crefft Cymru, sy’n cynnwys pum enillydd blaenorol Cigydd Cymreig y Flwyddyn neu Gigydd Iau Cymreig y Flwyddyn – y Capten Peter Rushforth, Matthew Edwards, Tomi Jones, Dan Allen-Raftery a Craig Holly.

Cigyddion mewn rownd derfynol Cigydd Crefft y Flwyddyn y llynedd.

Dywedodd Arwyn Watkins, OBE, llywydd CAW a Chadeirydd Gweithredol Cwmni Hyfforddiant Cambrian: “Mae cystadleuaeth Cigydd Cymreig y Flwyddyn yn llwyfan perffaith i gigyddion gorau Cymru o bob oed ddangos eu sgiliau. 

“Mae’n fraint enfawr i gael eich enwi’r gorau yng Nghymru yn eich dewis alwedigaeth a bydd hyn yn gyfle i wylio cigyddion medrus yn arddangos eu sgiliau a’u technegau arddangos cig.”

Wedi’i drefnu gan CAW, bydd WICC 2024 hefyd yn cynnal Cogydd Cenedlaethol ac Iau Cymru, Cogydd Gwyrdd y Flwyddyn ac ystod eang o ddosbarthiadau sgiliau WICC yn ogystal â chynnal rowndiau terfynol lletygarwch Cystadleuaeth Sgiliau Cymru.

Bydd rhai ymwelwyr lwcus o WICC yn cael cyfle unigryw i dreialu’r bwydlenni gan y gwahanol gystadleuwyr, ar sail y cyntaf i’r felin, trwy archebu tocynnau drwy office@culinaryassociation.wales

Daw’r tri diwrnod o gystadlu i ben gyda Chinio Gwobrau’r Diwydiant Tei-Du ddydd Mercher, 24 Ionawr, gan arddangos y bwyd a’r diod gorau yng Nghymru. Mae tocynnau bellach ar werth am ginio drwy office@culinaryassociation.cymru, gyda chost o £1,000 ar gyfer byrddau o 12 neu £100 i unigolion.

Prif noddwyr yr WICC yw Llywodraeth Cymru, Castell Howell, Hybu Cig Cymru / Meat Promotion Wales, ICC Wales, Cwmni Hyfforddiant Cambrian, Kentaur, Churchill, MCS Technical Products, Roller Grill, Radnor Hills, Cygnet Gin, Capital Cuisine, Ecolab, City & Guilds a Compass Cymru.


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The South Wales Chronicle