Home Neath Port Talbot Y Cyngor yn ymrwymo i’w gwneud yn haws i staff gydbwyso gwaith...

Y Cyngor yn ymrwymo i’w gwneud yn haws i staff gydbwyso gwaith a gofal maeth

0
814
Image by pachecopablo90 from Pixabay
Advertisement

Mae Cyngor Castell-nedd Port Talbot wedi ymrwymo i’w gwneud yn haws i’w staff gydbwyso gwaith a gofal maeth drwy ddod yn ‘Gyflogwr sy’n Gyfeillgar i Faethu’.

Bydd cyflogeion sy’n gwneud cais i ddod yn ofalwyr maeth neu sydd eisoes yn ofalwyr maeth bellach yn gallu gwneud cais am hyd at bum diwrnod y flwyddyn i ffwrdd o’r gwaith â thâl er mwyn eu helpu yn eu rôl faethu.

Bydd y fenter hon yn rhoi amser i gyflogeion gael hyfforddiant, paratoi ar gyfer asesiadau, mynd i gyfarfodydd, a delio â sefyllfaoedd annisgwyl neu argyfyngau sy’n ymwneud â’r plentyn.

Advertisement

Dywedodd y Cynghorydd Sian Harris, sef Aelod Cabinet Cyngor Castell-nedd Port Talbot dros Wasanaethau Plant a Theuluoedd: “Mae’r polisi hwn yn dangos ein hymroddiad i gydnabod pwysigrwydd cefnogi ein cyflogeion sy’n dewis dod yn ofalwyr maeth.

“Y gobaith yw y bydd ychwanegu mwy o hyblygrwydd hefyd yn helpu i chwalu’r myth na allwch chi faethu ochr yn ochr â bod mewn gwaith am dâl, ac y bydd mwy o gyflogeion yn ystyried rhoi cartref diogel i blant a phobl ifanc sydd mewn gofal.

“Mae ein holl ofalwyr maeth yn cyflawni rôl hanfodol drwy roi cartref diogel a sefydlog i blant, ac rydym yn ymrwymedig i wneud popeth o fewn ein gallu i’w cefnogi.”

Mae Cyngor Castell-nedd Port Talbot yn recriwtio gofalwyr maeth nawr. Mae amrywiaeth o rolau hyblyg ar gael, gan gynnwys gofal amser llawn, gofal seibiant byr a gofal brys, y gellir eu haddasu yn unol ag argaeledd gofalwr.

I gael rhagor o wybodaeth am ddod yn ofalwr maeth yng Nghastell-nedd Port Talbot, ewch i: https://cnpt.maethucymru.llyw.cymru/


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The South Wales Chronicle