Home Neath Port Talbot ‘Colli Ysgol, Colli Cymaint’: Cyngor yn lansio ymgyrch i wella cyfraddau mynychu’r...

‘Colli Ysgol, Colli Cymaint’: Cyngor yn lansio ymgyrch i wella cyfraddau mynychu’r ysgol

0
875
School Attendance
Advertisement

Mae Cyngor Castell-nedd Port Talbot wedi lansio ymgyrch i dynnu sylw at bwysigrwydd mynd i’r ysgol i sicrhau fod pob plentyn a pherson ifanc cyn cael y dechrau gorau posib mewn bywyd. Nod ymgyrch ‘Colli Ysgol, Colli Cymaint’ yw codi ymwybyddiaeth am fanteision mynychu’r ysgol, rhoi gwybodaeth am sut y gall teuluoedd atal absenoldebau, a thynnu sylw at y gefnogaeth sydd ar gael i rieni.

Mae mynychu’r ysgol gynradd ac uwchradd yn rheolaidd yn chwarae rhan hanfodol wrth helpu plant i ddatblygu sgiliau bywyd hanfodol, gallu cymdeithasol, cyfeillgarwch, gwerthoedd tîm, ac i ddeall darpar lwybrau i yrfaoedd. Dengys ymchwil fod cyswllt uniongyrchol rhwng cyfraddau mynychu ysgol uchel a chyflawniad academaidd uwch. Ym mlwyddyn academaidd 2022/23, llwyddodd 82% o ddisgyblion yng Nghastell-nedd Port Talbot a lwyddodd i gynnal cyfradd presenoldeb o 95% neu uwch i ennill gradd ‘C’ neu uwch mewn TGAU Mathemateg a Saesneg / Cymraeg.

Mae’r cyngor yn cynnig Gwasanaeth Lles Addysg i gynorthwyo rhieni a gwarcheidwaid sy’n wynebu heriau wrth geisio cael eu plant i fynd i’r ysgol yn rheolaidd. Mae’r gwasanaeth hwn yn canolbwyntio ar roi cyngor a chefnogaeth i rieni plant oedran ysgol gorfodol, gyda’r nod o hybu mynychu cyson a gwella’r profiad addysgol drwyddi draw. Dylai rhieni a gwarcheidwaid sy’n gofidio am gyfradd fynychu plentyn siarad â’r ysgol yn y lle cyntaf.

Advertisement

Ymhellach, mae’r ymgyrch yn pwysleisio rôl rhieni a gwarcheidwaid wrth atal absenoldebau o’r ysgol. Mae’n annog teuluoedd i sefydlu trefn gyson o oedran ifanc, esbonio manteision cynnal presenoldeb a phrydlondeb da, ac ymgysylltu’n weithredol yn addysg eu plant drwy gymryd rhan mewn gweithgareddau ysgol a thrafod gwaith ysgol.

Meddai’r Cynghorydd Nia Jenkins, Aelod Cabinet Cyngor Castell-nedd Port Talbot dros Addysg a’r Blynyddoedd Cynnar: “Lansiwyd ymgyrch ‘Colli Ysgol, Colli Cymaint’ i gyd-fynd â’r adeg pan fyddwn ni’n dechrau gweld dirywiad mewn cyfraddau mynychu yn ystod y flwyddyn ysgol.

“Mae mynychu’n rheolaidd a phrydlon yn hanfodol i blant a phobl ifanc, er mwyn iddyn nhw allu manteisio i’r eithaf ar eu hamser yn yr ysgol.

“Rydyn ni’n deall y gall rhai disgyblion wynebu heriau, a hoffem sicrhau teuluoedd fod help ar gael. Os yw eich plentyn chi’n cael problemau gyda mynychu’r ysgol, cysylltwch â’ch ysgol i gael cymorth a chyngor yn y lle cyntaf.

Dywedodd David Cole, Pennaeth Ysgol Gyfun Cefn Saeson: “Flwyddyn ar ôl blwyddyn, dengys yr ystadegau fod cyswllt cryf rhwng mynychu a chyflawni yn ein hysgol ni.

“Rieni, os ydych chi eisiau cefnogi addysg eich plant, y peth gorau allwch chi ei wneud yw anfon eich plant i’r ysgol bob dydd.”

I gael mwy o wybodaeth am yr ymgyrch, ewch i www.npt.gov.uk/school-attendance.


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The South Wales Chronicle