Mae Trefi Smart Towns Cymru yn falch iawn o gyhoeddi y byddan nhw’n cymryd rhan ac yn noddi sesiwn yn Wythnos Tech Cymru, sef uwchgynhadledd amrywiol, gynhwysol a chynaliadwy sy’n dod â rhai o’r busnesau a’r unigolion mwyaf arloesol a blaengar ym myd technoleg at ei gilydd. Mae’r digwyddiad hwn yn dathlu rôl Cymru fel aelod blaenllaw o’r byd technoleg ar lefel fyd-eang, gan fynd i’r afael â heriau sy’n wynebu cymdeithas a’u trawsnewid yn gyfleoedd.
Mae Wythnos Tech Cymru yn cynnwys sbectrwm eang o feysydd technolegol – o seiberddiogelwch a chlystyrau o led-ddargludyddion cyfansawdd a gydnabyddir yn rhyngwladol, i’r diwydiant creadigol, technoleg ariannol, technoleg feddygol, a thechnolegau newydd fel cadwyn flociau a ffotoneg. Mae’n brawf o’r arloesedd a’r twf cyflym a welir yn y byd technoleg yng Nghymru.
Pam Trefi Smart?
Mae Trefi Smart, sy’n arwain y ffordd ar dechnoleg glyfar arloesol ar gyfer cymunedau yng Nghymru, wedi ymrwymo i adfywio a diogelu’r stryd fawr at y dyfodol. Mae eu hymrwymiad yn cyd-fynd yn berffaith â gweledigaeth Wythnos Tech Cymru, sy’n ceisio cysylltu a chreu cyfleoedd i’r rheini sy’n siapio dyfodol technoleg.
Eu Sesiwn: Trefi Smart Towns Cymru
Bydd Trefi Smart yn cynnal sesiwn gyffrous o’r enw “Trefi Smart Towns Cymru: How Smart Technology is Future Proofing Welsh High Streets.” Yn y sesiwn hon, bydd cyfle unigryw i’r rheini sy’n bresennol ddysgu gan yr arloeswyr a’r arbenigwyr yn y byd Trefi Smart yng Nghymru. Bydd y panel o siaradwyr nodedig yn rhannu enghreifftiau go iawn o sut mae technoleg glyfar yn trawsnewid trefi, gan sicrhau eu bod yn gynaliadwy ac yn ffynnu.
Uchafbwyntiau’r Sesiwn:
Bydd David Evans, Swyddog Datblygu Dinas Glyfar Wrecsam, yn rhannu gwybodaeth am daith Wrecsam i ddod yn Ddinas Glyfar arloesol y Gogledd.
Bydd Paul Sandham, cyd-sylfaenydd Kodergarten a chrëwr platfform Patrwm, yn sôn am bwysigrwydd data agored er mwyn sbarduno arloesedd a chynaliadwyedd.
Bydd Victoria Mann, ‘arwr y stryd fawr’ a Phrif Swyddog Gweithredol Near Me Now Ltd, yn trafod ei nod i rymuso busnesau a chymunedau drwy lwyfan ecosystem VZTA Smart Towns.
Bydd Owen Davies, ymgynghorydd creu lleoedd, yn egluro arwyddocâd cynlluniau lleoedd digidol er mwyn diogelu trefi Cymru at y dyfodol.
Manylion y Digwyddiad:
Dyddiad: 17.10.2023
Amser: 15:00 – 15:45
Lleoliad: ICC, Casnewydd
Cofrestru: I gofrestru ar gyfer y digwyddiad am ddim hwn, ac i gael rhagor o wybodaeth am Wythnos Tech Cymru, ewch i https://www.walestechweek.com/
Mae Trefi Smart yn edrych ymlaen at fod yn rhan o’r digwyddiad gwych hwn. Mae’n gwahodd pob busnes ac arloeswr ym myd technoleg, a phawb sy’n frwd dros dechnoleg – p’un a ydyn nhw’n ymwneud â thechnoleg, yn archwilio potensial technoleg i drawsnewid eu busnes, neu’n chwilfrydig am dechnoleg – i ymuno â nhw yn Wythnos Tech Cymru.
I drafod ymholiadau gan y cyfryngau, cyfleoedd partneriaeth, neu gyfweliadau gyda’u harbenigwyr, cysylltwch â:
Help keep news FREE for our readers
Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The South Wales Chronicle












