Home Food Dyddiad i’r Dyddiadur: Gŵyl Bwyd a Diod Castell-nedd 2023

Dyddiad i’r Dyddiadur: Gŵyl Bwyd a Diod Castell-nedd 2023

0
523
Advertisement

Arogl bwyd stryd blasus a sain cerddoriaeth fyw – gall hyn ond olygu un peth: mae Gŵyl Bwyd a Diod Castell-nedd yn ei hôl.

Caiff yr ŵyl ei threfnu gan Gyngor Castell-nedd Port Talbot, a bydd yn swyno pobl sy’n ymddiddori mewn bwyd ddydd Gwener 6 Hydref a dydd Sadwrn 7 Hydref yng nghanol tref Castell-nedd.

Cafodd Gŵyl Bwyd a Diod Castell-nedd ei chynnal am y tro cyntaf yn 2009 ac, erbyn hyn, mae’n un o’r digwyddiadau mwyaf poblogaidd o’r fath yng Nghymru, gan ddenu torfeydd o fwy nag 20,000 o ymwelwyr y dydd. Mae’r digwyddiad dau ddiwrnod hwn yn dathlu bwydydd a lletygarwch Cymreig, gan gynnwys detholiad amrywiol o fwy na 50 o werthwyr yn arddangos pob math o bethau, o gawsiau a charcuterie artisan i gig, llysiau organig a phwdinau, yn ogystal â chwrw, seidr a gwirodydd crefft, a llawer mwy. Mae digonedd o opsiynau llysieuol, figanaidd a heb glwten ar gael hefyd, gan sicrhau bod rhywbeth at ddant pawb.

Advertisement
Neath-food-and-drink-festival-2022

Ond mae Gŵyl Bwyd a Diod Castell-nedd yn fwy na dim ond gwledd. Drwy gydol y digwyddiad, gall ymwelwyr fwynhau cerddoriaeth fyw gan fandiau lleol, gwylio perfformiadau stryd ac arddangosiadau coginio, a chymryd rhan mewn gweithdai.

Mynegodd y Cynghorydd Cen Phillips, sef Aelod Cabinet Cyngor Castell-nedd Port Talbot dros Natur, Twristiaeth a Llesiant, ei frwdfrydedd dros yr ŵyl eleni, gan ddweud, “Mae Gŵyl Bwyd a Diod Castell-nedd yn gyfle gwych i ddangos tref farchnad Castell-nedd ar ei gorau, ac rwy’n siŵr y bydd masnachwyr lleol yn elwa ar y cynnydd yn nifer yr ymwelwyr.

“Bydd yr ŵyl yn arddangos y cynnyrch gorau sy’n cael ei greu yng Nghastell-nedd Port Talbot ac ym mhob rhan o Dde Cymru.

“Rydyn ni’n edrych ymlaen yn fawr at gael croesawu pawb i ganol tref Castell-nedd y mis Hydref hwn am brofiad bwyd a diod bythgofiadwy arall.”

I gael rhagor o wybodaeth am Ŵyl Bwyd a Diod Castell-nedd, ewch i beta.npt.gov.uk/cy/gwyl-bwyd-a-diod-castell-nedd.


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The South Wales Chronicle