Mae Trafnidiaeth Cymru (TrC) wedi ailagor gorsaf reilffordd Tŷ Glas yn dilyn rhaglen waith fawr i foderneiddio’r orsaf a gwella diogelwch i deithwyr a’r gymuned leol.
Er i’r groesfan lefel ailagor i’r cyhoedd ym mis Hydref 2025 yn dilyn gwelliannau diogelwch hanfodol, mae gwaith wedi parhau ar yr orsaf ei hun i gyflawni’r uwchraddiadau sy’n gweddill.
Mae’r uwchraddiadau’n cynnwys:
- Ymestyn y platfform: Mae’r platfform yn gorsaf Tŷ Glas wedi ymestyn 16 metr
- Gwelliannau diogelwch: Arwyneb croesi wedi’i adnewyddu a llwybr mwy diogel sy’n cysylltu’r orsaf â’r groesfan.
- Hygyrchedd: Mae’r uwchraddiadau bellach yn cynnwys mynediad gwastad rhwng y trên a’r platfform gan wneud yr orsaf mwy hygyrch i’r cwsmeriiad.
Gyda’r gwaith angenrheidiol wedi’i gwblhau fe wnaeth yr orsaf ailagor a’r 4 Ebrill i gwsmeriiad sy’n teithio ar linell Coryton.
Mae’r uwchraddiadau hyn yn hanfodol i alluogi trenau tri-modd trydan Dosbarth 756 newydd TrC – rhan o fuddsoddiad £800 miliwn Llywodraeth Cymru mewn fflyd newydd o drenau a gyflwynwyd i linell Coryton y llynedd – i stopio yn Nhŷ Glas am y tro cyntaf.
Ar draws rhannau eraill o Linellau Craidd y Cymoedd, mae fflyd Dosbarth 756 eisoes wedi chwarae rhan allweddol wrth gyflawni perfformiad cryf, gan gyfartaleddu dibynadwyedd o dros 90% dros y chwe mis diwethaf.
Dywedodd Dan Tipper, Prif Swyddog Seilwaith yn TrC: “Mae ailagor gorsaf Tŷ Glas yn nodi diwedd rhaglen waith fawr a dechrau profiad teithio mwy diogel a modern i’n cwsmeriaid.
“Roedd yr uwchraddiadau hyn yn hanfodol i gefnogi ein trenau trydan tawelach, cyflymach ac i sicrhau diogelwch y nifer o bobl sy’n defnyddio’r groesfan wastad bob dydd.”
“Hoffem ddiolch i’r cymunedau ar hyd llinell Coryton am eu hamynedd a’u dealltwriaeth drwy gydol y cyfnod cau”.
Mae cwblhau’r gwaith hwn yn gam sylweddol ymlaen yn y trawsnewidiad parhaus o Fetro De Cymru, ac mae TrC yn falch y gall cwsmeriaid nawr elwa o’r trenau Dosbarth 756 newydd yng ngorsaf Tŷ Glas am y tro cyntaf.
Help keep news FREE for our readers
Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The South Wales Chronicle












