Bydd gwaith adnewyddu hanfodol i strwythurau a’r trac yn effeithio ar wasanaethau trên yn ne Cymru am bythefnos yn hwyrach ym mis Ionawr.
Bydd Network Rail yn uwchraddio’r rheilffordd yn ardal Abertawe er mwyn cynnal y llwybr allweddol hwn i’r rhanbarth.
Caiff gwasanaethau eu diwygio o ddydd Llun 26 Ionawr i ddydd Iau 5 Chwefror, ac eto ar ddydd Sul 8 Chwefror.
Cynlluniwyd y gwaith peirianyddol i osgoi tarfu ar drenau pan fydd tîm rygbi dynion Lloegr yn chwarae yn erbyn Cymru yn Twickenham ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad ar ddydd Sadwrn 7 Chwefror.
Dydd Llun 26 i ddydd Gwener 30 Ionawr
- Bwriedir i fysiau rhedeg yn lle trenau rhwng Port Talbot Parkway ac Abertawe neu Lanelli
- Bydd trenau’n dal i redeg rhwng Llundain Paddington a gorsaf Port Talbot Parkway, a rhwng Llanelli a Chaerfyrddin
- Bydd Trafnidiaeth Cymru’n rhedeg nifer gyfyngedig o wasanaethau trên rhwng Caerdydd Canolog a Chaerfyrddin ar lwybr amgen – heb aros yng Nghastell-nedd nac Abertawe
Penwythnos 31 Ionawr a 1 Chwefror
- Bwriedir i fysiau rhedeg yn lle trenau rhwng Caerdydd Canolog a Phen-y-bont ar Ogwr neu Abertawe
- Bydd trenau’n dal i redeg rhwng Llundain Paddington a Chaerdydd Canolog, a rhwng Abertawe a Chaerfyrddin
- Bydd Trafnidiaeth Cymru’n rhedeg gwasanaethau trên rhwng Caerdydd Canolog a Phen-y-bont ar Ogwr
Dydd Llun 2 i ddydd Iau 5 Chwefror
- Bwriedir i fysiau rhedeg yn lle trenau rhwng Port Talbot Parkway ac Abertawe
- Bydd trenau’n dal i redeg rhwng Llundain Paddington a gorsaf Port Talbot Parkway , a rhwng Abertawe a Chaerfyrddin
- Bydd Trafnidiaeth Cymru’n rhedeg nifer gyfyngedig o wasanaethau trên rhwng Caerdydd Canolog a Chaerfyrddin ar lwybr amgen – heb aros yng Nghastell-nedd nac Abertawe
Dydd Sul 8 Chwefror
- Bwriedir i fysiau rhedeg yn lle trenau rhwng Caerdydd Canolog, Pen-y-bont ar Ogwr a gorsaf Port Talbot Parkway neu rhwng Caerdydd Canolog ac Abertawe (heb aros)
- Bydd trenau’n dal i redeg rhwng Llundain Paddington a Chaerdydd Canolog, a rhwng Port Talbot Parkway neu Abertawe a Chaerfyrddin
Dywedodd Kay Davies, Rheolwr Gorsafoedd GWR De Cymru:
“Mae’n ddrwg gennym am yr effaith caiff y gwaith hwn ar gwsmeriaid, ond mae hwn yn fuddsoddiad pwysig iawn yn nibynadwyedd hirdymor ein rheilffordd.
“Diwygiwyd yr amserlenni ar y dyddiadau hynny i adlewyrchu’r newid i wasanaethau, gan gynnwys llai o drenau’n rhedeg rhwng Caerdydd Canolog a Llundain Paddington.
“Bydd bysiau’n rhedeg yn lle trenau lle effeithir ar eich trên arferol, ond dylech ganiatáu amser ychwanegol ar gyfer eich taith gan fod teithio ar fws yn cymryd ychydig yn hirach na theithio ar drên.”
Dywedodd Colin Lea, Cyfarwyddwr Cynllunio a Pherfformiad Trafnidiaeth Cymru:
“Rydym yn gweithio’n agos â Network Rail a GWR i gadw teithwyr yn symud yn ystod y gwaith hanfodol hwn i uwchraddio’r rheilffordd.
“Er y caiff rhai o’n gwasanaethau eu dargyfeirio ac efallai y bydd teithiau’n cymryd mwy o amser nag arfer, rydym wedi ymrwymo i ddarparu opsiynau teithio amgen trwy gydol y cyfnod hwn.
“Rydym yn annog teithwyr i gynllunio ymlaen llaw, gwirio cyn iddynt deithio, a chaniatáu amser ychwanegol ar gyfer y daith.
“Gwerthfawrogwn amynedd pawb wrth i’r gwaith pwysig hwn i wella dibynadwyedd hirdymor gwasanaethau trên ar draws de Cymru mynd rhagddo.”
Dywedodd Nick Millington, Cyfarwyddwr llwybr Network Rail Cymru a’r Gororau:
“Rydym yn gweithio’n galed iawn i wella prydlondeb trenau, ac mae’r gwaith hanfodol hwn yn rhan o’n hymrwymiad i wneud hynny.
“Rydym yn cydnabod nad oes byth amser da i gau’r rheilffordd, ond cynlluniwyd y gwaith adnewyddu gennym i leihau tarfu ar wasanaethau cymaint â phosibl.
“Hoffwn ddiolch i deithwyr am eu hamynedd ac rwyf yn eu hannog i wirio’u teithiau cyn teithio.”
Byddwch yn glyfar wrth deithio
- Gwirio eich taith: GWR.com/Upgrade
- Caniatáu amser ychwanegol
- Cofrestru i dderbyn y newyddion diweddaraf am unrhyw newidiadau
- Mae eich tocyn rheilffordd yn ddilys ar fysiau sy’n rhedeg yn lle trenau
Help keep news FREE for our readers
Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The South Wales Chronicle












