Home Charity Helpu i adeiladu dyfodol gwell ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol yng...

Helpu i adeiladu dyfodol gwell ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru

0
311
21.10.25 - LLAIS - Public Forum on Neurodevelopmental and Children and Adolsescent Mental Health Services (CAMHS) -
Advertisement

Gyda’r dyddiad cau yn agosáu’n gyflym, mae pobl yn cael eu hannog i helpu i lunio dyfodol iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru.

21.10.25 – LLAIS – Public Forum on Neurodevelopmental and Children and Adolsescent Mental Health Services (CAMHS) –

Mae Llais, y corff sy’n gyfrifol am sicrhau bod barn pobl yn cael ei chlywed, yn cynnal Y Gofal Iechyd a Chymdeithasol a Garem, sgwrs genedlaethol am greu gwasanaethau tecach a mwy person-ganolog.

21.10.25 – LLAIS – Public Forum on Neurodevelopmental and Children and Adolsescent Mental Health Services (CAMHS) –

Mae Llais wedi clywed gan dros ddwy fil o bobl hyd yn hyn drwy ddigwyddiadau, arolygon a sgyrsiau gyda grwpiau ac unigolion. Nawr, gyda’r sgwrs genedlaethol yn dod i ben ddechrau mis Tachwedd, maen nhw’n annog pobl o bob cwr o Gymru i rannu eu barn cyn y dyddiad cau. Mae hyn yn cynnwys bod eisiau clywed mwy gan bobl mewn ardaloedd gwledig, y rhai sydd â cholled synhwyraidd neu gyflyrau iechyd hirdymor, plant a phobl ifanc, a chymunedau lleiafrifoedd ethnig.

Advertisement

Un o’r grwpiau sydd wedi cydweithio â Llais yw The Gap Wales. Maent yn elusen sy’n cynnig cefnogaeth i geiswyr lloches, ffoaduriaid, y digartref a’r rhai sydd mewn tai bregus, ynghyd â darparu gwasanaethau profedigaeth a mwy. 

21.10.25 – LLAIS – Public Forum on Neurodevelopmental and Children and Adolsescent Mental Health Services (CAMHS) –

I Byron James, Rheolwr Gweithrediadau yn The Gap Wales, roedd yn gyfle gwych i leisiau pobl agored i niwed gael eu clywed a helpu i wella’r gwasanaethau maen nhw’n eu defnyddio. Dywedodd, “Yn The Gap Wales, rydym yn gweithio ochr yn ochr â phobl sy’n aml yn mynd heb eu gweld na’u clywed, nid yn unig mewn sgyrsiau cenedlaethol, ond yn eu bywydau bob dydd. Yn aml, mae eu lleisiau ar goll o’r penderfyniadau sy’n llunio eu dyfodol.

“Rhoddodd bod yn rhan o’r prosiect hwn gyfle prin iddyn nhw rannu eu straeon a chael cipolwg ar y systemau sy’n effeithio arnyn nhw. Mae’r ymdeimlad hwnnw o welededd a chynhwysiant yn bwerus, ac mae’n helpu i feithrin hyder.

21.10.25 – LLAIS – Public Forum on Neurodevelopmental and Children and Adolsescent Mental Health Services (CAMHS) –

“Mae’r math hwn o gyfranogiad yn hanfodol os ydym am greu system sy’n adlewyrchu anghenion a blaenoriaethau pobl yn wirioneddol. Byddem yn annog eraill i gymryd rhan yn y sgwrs hon.”

Wrth sôn am bwysigrwydd pobl i fanteisio ar y cyfle i gael eu llais wedi’i glywed, dywedodd Alyson Thomas, Prif Weithredwr Llais:

“Gyda’r sgwrs genedlaethol yn dod i ben yn fuan, rydym yn annog pawb i gymryd rhan. Gall eich llais helpu i lunio system well i bawb.”

Mae’r sgwrs yn rhedeg tan 1 Tachwedd 2025, ac ar ôl hynny bydd Llais yn cyhoeddi adroddiad gyda chanfyddiadau allweddol, argymhellion, a fframwaith ar gyfer newid. Mae pobl yn gallu cymryd rhan drwy lenwi arolwg ar-lein neu fynychu digwyddiad Llais. Am ragor o wybodaeth ar sut i gymryd rhan, ewch i llaiscymru.org/rydymeisiau


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The South Wales Chronicle