Home Newyddion Lle Metro De Cymru: Gwelliannau mawr i linell Rhymni

Metro De Cymru: Gwelliannau mawr i linell Rhymni

0
399
231 FLIRT Sultan
Advertisement

Mae Trafnidiaeth Cymru yn falch i gyhoeddi gwelliannau mawr i linell trên Cwm Rhymni fel rhan o gyfnod nesaf Metro De Cymru.  

Gan ddechrau ar ddiwedd mis Mawrth 2025, bydd TrC yn cynnal gwaith peirianneg dros 8 mis a fydd yn trawsnewid a thrydaneiddio dros 15km o linell trên.  

Cyflwynwyd trenau newydd sbon (Trenau Dosbarth 231) i linell Cwm Rhymni yn 2023 fel rhan o fuddsoddiad £800 miliwn TrC mewn trenau newydd sbon ledled Cymru.  

Advertisement

Bydd y gwelliannau seilwaith pellach hyn yn ein galluogi ni i gyflwyno trenau trydan (trenau Dosbarth 756) i’r llinell, gan ddarparu trafnidiaeth gyflymach, wyrddach a mwy hygyrch i gymunedau de Cymru.  

Er mwyn inni gyflawni’r rhaglen waith ddwys hon dros 8 mis mewn ffordd ddiogel, bydd yna adegau lle fydd y llinell ar gau a bydd gwasanaeth bws yn lle trên yn gweithredu i alluogi cwsmeriaid i barhau i deithio. Mae hyn yn cynnwys dau gyfnod cau a fydd yn para 6 wythnos rhwng 12 Ebrill a 23 Mai a 19 Gorffennaf a 31 Awst.  

Mae TrC yn annog ein holl gwsmeriaid i wirio llinell Rhymni cyn teithio. 

Video: https://newyddion.trc.cymru/newyddion/metro-de-cymru-gwelliannau-mawr-i-linell-rhymni

Dywedodd Prif Swyddog Seilwaith TrC, Dan Tipper: “Rydyn ni’n gyffrous i ddechrau ar ein rhaglen drawsnewidiol i uwchraddio llinell Rhymni fel rhan o brosiect Metro De Cymru i drawsnewid trafnidiaeth gyhoeddus yn ne Cymru.  

Byddwn yn cynnal gwelliannau seilwaith pwysig ar y llinell, gan gynnwys gosod Cyfarpar Llinellau Uwchben i drydaneiddio’r llinell ac uwchraddio gorsafoedd trên lleol.  

Rydyn ni’n gwerthfawrogi amynedd ein cwsmeriaid a chymdogion sy’n byw yn agos at y rheilffordd wrth inni wneud yr uwchraddiadau hyn. Rydyn ni’n deall bod cau’r rheilffordd a gwneud gwaith peirianneg yn gallu tarfu ar y rheini sy’n dibynnu ar ein gwasanaethau a’r rheini sy’n byw yn agos at y traciau – hoffem annog ein holl gwsmeriaid i wirio cyn teithio yn ystod y cyfnod hwn.” 

Am wybodaeth bellach ar gyfnodau cau’r rheilffordd ar y gweill, ewch i: Gwaith Peirianyddol | TrC


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The South Wales Chronicle