
Bydd cyfres o fwydlenni newydd cyffrous yn cael eu gweini ar fflyd pellter hir Trafnidiaeth Cymru diolch i gegin baratoi newydd a phrif gogydd newydd.
Ym mis Ionawr, cwblhawyd y gwaith o osod cegin baratoi newydd sbon yng Ngorsaf Casnewydd lle bydd tîm o gogyddion yn brysur yn paratoi amrywiaeth o brydau ar gyfer cwsmeriaid sy’n teithio rhwng Caergybi, Manceinion a Chaerdydd.
Dywedodd Mark Roberts, y prif gogydd, a ymunodd o Wagamama ddiwedd y llynedd, ei fod yn edrych ymlaen yn fawr at rannu gyda’n cwsmeriaid cymysgedd o goginio cartref ffres ond gan ychwanegu blas dwyreiniol nawr ac yn y man hefyd.
“Rwyf wrth fy modd yn paratoi prydau cartref clasurol gan ddefnyddio cynnyrch lleol – pa well ffordd o hyrwyddo’r cynnyrch rhagorol a gynhyrchir yma yng Nghymru,” meddai Mark, a fu’n gweithio ym mwyty poblogaidd Wagamama am wyth mlynedd.
“Ond bydda i hefyd yn rhannu fy mhrofiadau yn Wagamama ac yn paratoi prydau wedi’u hysbrydoli gan goginio Asiaidd – cacennau pysgod Thai er enghraifft.
“Gyda’r cyfleuster newydd gwych hwn, bydd y dewisiadau y gallwn eu cynnig i’n cwsmeriaid yn llawer mwy.
“Rwy’n bwriadu paratoi o leiaf dwy fwydlen ymlaen llaw – rwy’n edrych ymlaen yn fawr at rannu gyda’n cwsmeriaid rhai syniadau sydd gennyf ar gyfer bwydlenni’r gwanwyn, yr Eisteddfod a’r Nadolig.”
Er y bydd llawer o’r gwaith paratoi yn cael ei wneud yng Nghasnewydd a’i lwytho ar ein trenau sydd â cherbydau Dosbarth Uwch ar y daith i’r gogledd, bydd y cogyddion ar fwrdd y trên yn dal i allu paratoi prydau ffres yn y gegin wrth i’r trên deithio hyd at 90mya ar hyd llwybr Gororau Cymru.
Mae hynny’n cynnwys bwyd ar gyfer y teithwyr hynny fydd yn teithio i gyfeiriad y de a Chaerdydd, bwyd a gaiff ei storio mewn oergelloedd ar fwrdd y trên cyn cael ei ddadlwytho mewn lleoliadau penodol ar hyd y ffordd, yn barod ar gyfer y gwasanaethau dychwelyd ac amser brecwast y diwrnod canlynol.
Mae’r cynnig arlwyo ar y gwasanaeth hwn yn boblogaidd iawn gyda’n teithwyr ers amser maith ac mae adolygwyr wedi rhoi canmoliaeth uchel iddo dros y blynyddoedd, gan gynnwys y fwydlen a baratowyd ar gyfer Eisteddfod y llynedd.
Rydym hefyd yn cynllunio bwydlen gyffrous fel rhan o ddathliadau Rheilffordd 200 yn 2025. a byddwn yn rhannu mwy o fanylion am hyn yn fuan.
Dywedodd Paul Otterburn, Rheolwr Arlwyo, y bydd y buddsoddiad hwn yn ein galluogi i gynnig opsiynau arlwyo cyffrous i’n cwsmeriaid yn y dyfodol, bwydlenni sydd eisoes yn boblogaidd iawn.
Dywedodd: “Gyda’r cyfleuster newydd rhagorol hwn, gallwn gynyddu’n fawr yr ystod o fwydydd y gallwn eu coginio ein hunain.
“Nawr, bydd ein cogyddion yn gallu defnyddio’r safle hwn i baratoi bwyd ymlaen llaw ar gyfer ein prif wasanaeth gan ychwanegu at y dewis arlwyo rhagorol sydd eisoes ar gael ar ein trenau. Mae dyfodol gwasanaeth arlwyo trenau TrC yn ddisglair iawn.”
Help keep news FREE for our readers
Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The South Wales Chronicle











