Home Newyddion Lle Trydaneiddio llinellau Coryton a Rhymni Isaf fel rhan o brosiect Metro

Trydaneiddio llinellau Coryton a Rhymni Isaf fel rhan o brosiect Metro

0
428
Advertisement

Mae Trafnidiaeth Cymru (TrC) gam arall yn nes at gyflawni cam nesaf Metro De Cymru gan ei fod yn paratoi ar gyfer trydaneiddio llinellau Coryton a Rhymni Is yn ystod yr wythnosau nesaf.

Fel rhan o’r prosiect Metro, a fydd yn trydaneiddio 170km o drac, mae 116km o’r trac eisoes wedi’i drydaneiddio ac yn ‘fyw’. O ran mynd ati i drydaneiddio llinellau Coryton a Rhymni Isaf (y lein rhwng Caerffili a Heol y Frenhines Caerdydd), bydd cyfanswm y pellter sydd wedi’i drydaneiddio yn cynyddu i 155km.

O drydaneiddio’r llinellau hyn, bydd TrC yn gallu rhedeg trenau tri-dull newydd ar y leiniau rhwng Coryton a Phenarth a rhwng Caerffili a Phenarth, a hynny o Wanwyn 2025.

Advertisement

Wrth i TrC barhau i drydaneiddio mwy o’r rheilffordd yn Ne Cymru, maent yn annog y cyhoedd i fod yn ymwybodol o’r risgiau diogelwch, a amlygwyd gan ymgyrch diogelwch TrC Dim Ail Gyfle. Mae tresmasu ar y rheilffordd yn anghyfreithlon, ac mae gwneud hynny pan gaiff y rheilffordd ei thrydaneiddio yn peri mwy o risg fyth o ddioddef anaf difrifol neu hyd yn oed farwolaeth.

Os gwelwch unrhyw un yn ymddwyn yn amheus ar y traciau, cysylltwch â Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig:

· Rhif ffôn 0800 40 50 40

· Rhif neges testun 61016

· Mewn argyfwng? Ffoniwch 999

· Neu ffoniwch Crimestoppers yn ddienw ar 0800 555 111.

Profi Cyfarpar Llinell Uwchben

Rhwng dydd Gwener 31 Ionawr a dydd Sul 02 Chwefror, ni fydd unrhyw wasanaethau yn rhedeg ar reilffyrdd Coryton, Rhymni a Bae Caerdydd. Bydd cau’r rheilffyrdd hyn yn caniatáu i TrC brofi’r Cyfarpar Llinell Uwchben a fydd yn pweru’r trenau trydan newydd sbon.

Er mwyn cadw’r cyhoedd yn ddiogel, bydd nifer o bontydd troed, croesfannau rheilffyrdd a phontydd ffordd sy’n croesi llinellau Coryton a rheilffyrdd Rhymni Is ar gau ddydd Sadwrn 1 a dydd Sul 2 Chwefror. Gellir cael rhagor o wybodaeth am gau’r ffyrdd hyn ar wefan TrC – Trawsnewid leiniau Coryton a Rhymni | Trafnidiaeth Cymru

Mae’r gwaith o drawsnewid Llinellau Craidd y Cymoedd ar gyfer y Metro wedi’i ariannu’n rhannol gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru, a bydd yn galluogi gwasanaethau cyflymach, amlach i redeg rhwng Caerdydd a Blaenau’r Cymoedd.


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The South Wales Chronicle