Home Newport Sir Casnewydd yn y Gymuned yn derbyn hwb gwerth £20,000 oddi wrth...

Sir Casnewydd yn y Gymuned yn derbyn hwb gwerth £20,000 oddi wrth Great Western Railway

0
405
Advertisement

Mae prosiect yn ne Cymru sy’n cefnogi pobl ifanc trwy chwaraeon wedi derbyn grant gwerth £20,000 gan Great Western Railway.

Gwnaeth Sir Casnewydd yn y Gymuned gais llwyddiannus am grant gan Gronfa Gwella Cwsmeriaid a Chymunedau GWR, sy’n cefnogi cymunedau lleol ac yn mynd i’r afael â meysydd o angen cymdeithasol.

Mae’r Ymddiriedolaeth yn darparu sesiynau pêl-droed, prosiectau a chynlluniau yng Nghasnewydd a’r cyffiniau er mwyn ymgysylltu â phobl leol a chreu profiad cadarnhaol trwy glwb pêl-droed Sir Casnewydd, sy’n Adran Dau’r Gynghrair Bêl-droed.

Advertisement

Bydd arian GWR yn galluogi prosiect Sir Casnewydd yn y Gymuned i ddarparu sesiynau wedi’u targedu mewn lleoedd a bennwyd yn fannau problemus o ran troseddau ieuenctid ac ymddygiad gwrthgymdeithasol yn gysylltiedig â’r rheilffordd.

Dywedodd Liam Jenkins, Rheolwr Datblygu Cymunedol a llefarydd y prosiect:

“Rydym yn hynod o ddiolchgar i dderbyn yr arian hwn gan Great Western Railway, a fydd yn helpu i dyfu ein hôl-troed mewn cymunedau penodol ar draws y ddinas.

“Bydd yn ein caniatáu ni i gynyddu ein gwaith ymgysylltu ac i roi lle diogel i bobl ifanc ddod a chymdeithasu gyda’i ffrindiau. Y peth mwyaf pwysig yn ystod y naw mis nesaf fydd dysgu i bobl ifanc pa mor beryglus yw cledrau’r rheilffordd, a gwneud iddynt ddeall y canlyniadau posibl petaent yn gwneud y dewis anghywir.

“Trwy’r gweithdai hyn a’r berthynas gadarnhaol a ddatblygwn gyda’r bobl ifanc, rydym yn hyderus y bydd y prosiect hwn yn arwain at ostyngiad mesuradwy mewn trosedd yn gysylltiedig â’r rheilffordd ac ymddygiad gwrthgymdeithasol.”

Dywedodd Emma Morris, Uwch Reolwr Effaith Gymunedol GWR:

“Mae’r Gronfa Gwella Cwsmeriaid a Chymunedau’n gyfle gwych inni fuddsoddi yn ein cymunedau mewn prosiectau sy’n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol ar lefel lleol.

“Rydym wrth ein boddau i gefnogi’r fenter hon, a fydd yn helpu i godi ymwybyddiaeth am y peryglon sy’n gysylltiedig â’r rheilffordd, a’r angen i bawb ddangos synnwyr cyffredin pan fyddant yn symud o amgylch yr orsaf.”


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The South Wales Chronicle