
Cyflawnwyd swm sylweddol o waith peirianneg dros gyfnod o naw diwrnod o gau rheilffyrdd wrth i Trafnidiaeth Cymru (TrC) barhau i symud ymlaen i gyflawni camau nesaf Metro De Cymru.
Roedd cyfnod cau llinellau Merthyr Tudful, Aberdâr a Threherbert rhwng Pontypridd a Radur yn ddiweddar (rhwng 27 Medi a 6 Hydref) wedi caniatáu i TrC fwrw ymlaen gyda’r gwaith ar y gorsafoedd, gwaith seilwaith a gwaith cynnal a chadw.
Roedd y darnau o waith allweddol yn cynnwys paratoi platfformau ar gyfer mynediad gwastad yng ngorsafoedd Pontypridd a Ffynnon Taf, cael gwared ar bont droed yn Nhrefforest i ganiatáu pont Mynediad i Bawb newydd a gwaith draenio hanfodol cyn tymor y gaeaf
Video: https://newyddion.trc.cymru/newyddion/gwaith-mawr-i-uwchraddior-rheilffyrdd-ar-gyfer-metro-de-cymru
Dywedodd Dan Tipper, Prif Swyddog Seilwaith Trafnidiaeth Cymru:
“Rydym yn falch ein bod wedi gwneud cynnydd pellach o ran cyflawni cam nesaf Metro De Cymru.
“Yn ystod y cyfnod cau naw diwrnod fe wnaethom gyflawni swm mawr o waith peirianyddol hanfodol ac rydym bellach yn edrych ymlaen at gyflwyno trenau newydd sbon i rwydwaith De Cymru cyn diwedd y flwyddyn.
“Hoffem ddiolch i gwsmeriaid a chymdogion wrth ymyl y cledrau am eu hamynedd a’u dealltwriaeth.”
Help keep news FREE for our readers
Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The South Wales Chronicle











