Home Newyddion Lle Trawsnewid adeilad gwag yn unedau swyddfa a manwerthu o safon uchel yn...

Trawsnewid adeilad gwag yn unedau swyddfa a manwerthu o safon uchel yn Abertawe

0
465
Advertisement

Mae datblygiad Ardal y Dywysoges yn trawsnewid adeilad gwag, segur yn fannau manwerthu a swyddfeydd o ansawdd uchel yng nghanol dinas Abertawe.

Mae’r llawr gwaelod yn cynnwys gofod ar gyfer uned manwerthu hyblyg gyda thri llawr uwchben sy’n darparu swyddfeydd moethus.

Swansea Princess Quarter

Mae man ar gyfer storio beiciau ar y safle a gardd ar y to hefyd yn cael eu darparu a byddant yn hygyrch i feddianwyr. 

Advertisement

Mae’r lleoliad hefyd yn annog teithio llesol gyda chysylltiadau trafnidiaeth Abertawe o fewn pellter cerdded.

Darparwyd cyllid grant gwerth dros £2.6m drwy Raglen Trawsnewid Trefi Llywodraeth Cymru.

Swansea Princess Quarter

Yn ddiweddar, ymwelodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol, Tai a Chynllunio, Jayne Bryant, â’r safle: “Mae trawsnewid adeiladau gwag a segur a dechrau eu defnyddio eto yn yr 21ain ganrif yn un o brif gonglfeini ein Rhaglen Trawsnewid Trefi.

“Bydd yr adeilad yn cynnig pedwar llawr o ofod manwerthu a gofod swyddfa gwych a ddatblygwyd i’r safon uchaf ac a fydd yn cefnogi twf economaidd lleol.

“Dim ond un o blith y prosiectau adfywio sydd ar y gweill yn Abertawe ar hyn o bryd sy’n derbyn cymorth Trawsnewid Trefi yw hwn, ac edrychaf ymlaen at weld y mannau unwaith y bydd y gwaith datblygu’n cael ei gwblhau yn ddiweddarach eleni.”

Dywedodd Arweinydd Cyngor Abertawe, Rob Stewart: “Mae trawsnewid gwerth £1bn Abertawe yn parhau i symud ymlaen ar raddfa a chyflymder.

Swansea Princess Quarter

“Mae Ardal y Dywysoges eithriadol, ynghyd â llawer o ddatblygiadau eraill, yn dangos sut mae’r sector preifat yn dilyn y cyngor a’r sector cyhoeddus i gefnogi’r rhaglen hon yn hyderus gyda buddsoddiad gwerth cannoedd o filiynau o bunnoedd.

“Mae positifrwydd ein sectorau cyhoeddus a phreifat yn cydweithio i greu mwy o gartrefi, swyddfeydd, mannau manwerthu a chynigion hamdden yn adeiladu dyfodol cynaliadwy mawr i Abertawe, gan ddod â swyddi, cyfleoedd ac optimistiaeth.”


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The South Wales Chronicle