Home Newyddion Lle Anrhydeddu’r Brifysgol am ddarparu mannau gwyrdd i bawb

Anrhydeddu’r Brifysgol am ddarparu mannau gwyrdd i bawb

0
381
SU grounds team with Green Flag group
Advertisement

Unwaith eto, mae Prifysgol Abertawe wedi sicrhau gwobr y Faner Werdd sy’n cydnabod rhagoriaeth mewn rheoli a datblygu tiroedd. 

Cynllun Gwobr y Faner Werdd yw’r dyfarniad rhyngwladol am ansawdd parciau a mannau awyr agored ac mae’n amlygu ymrwymiad y Brifysgol i greu a chynnal mannau gwyrdd cynaliadwy sy’n ddiogel, yn groesawgar ac yn agored i bawb.

Yn dilyn adborth gan fyfyrwyr a staff, mae tîm Ystadau a Gwasanaethau Campws y Brifysgol wedi bod yn gweithio’n galed i ddod â bywyd newydd i fannau awyr agored ar Gampws y Bae a Champws Singleton. 

Advertisement

Mae’r ymdrechion hyn wedi cynnwys cynlluniau plannu helaeth wedi’u dylunio i gyfoethogi bioamrywiaeth y campysau, creu mannau awyr agored newydd i ymlacio ac astudio, a gosod murluniau a gwaith celf godidog sy’n dathlu hanes unigryw’r Brifysgol. 

Yn ogystal, mae sawl adeilad treftadaeth ar y campws yn y broses o gael ei adnewyddu’n ofalus.

Mae’r prosiect parhaus hwn i wella’r amgylchedd awyr agored wedi gofyn am gydweithrediad agos rhwng y timau Tiroedd, Gweithrediadau Campws, Prosiectau a Chynaliadwyedd, sy’n angerddol am gynaliadwyedd a bod yn gadarnhaol o ran natur.

Dywedodd Pennaeth Gweithrediadau Campws, Michelle Dene: “Rydym wrth ein boddau i dderbyn gwobr y Faner Werdd, sy’n dyst i waith caled ac ymrwymiad nifer o’n timau.

“Mae cynnal a gwella ein mannau awyr agored hardd yn waith anferth ac mae gweithio cydweithredol wedi bod yn allweddol i ni sicrhau’r Faner Werdd am y seithfed flwyddyn yn olynol. 

“Rydym yn awyddus i adeiladu ar y dull cydweithredol hwn i lwyddiant drwy gynnwys myfyrwyr, staff a’r gymuned ehangach yn ein hymdrechion i gynnal, rheoli a datblygu ein tiroedd hardd sy’n chwarae rhan bwysig yn y gymuned leol ac yn ehangach yn ein barn ni”.

Ychwanegodd Niamh Lamond, Cofrestrydd a Phrif Swyddog Gweithredol: “Rydym yn ffodus iawn yn Abertawe i gael dau gampws sydd mewn lleoliadau hardd ac ysbrydoledig. 

“Rydym wedi gwneud gwelliannau cadarnhaol iawn i’n mannau awyr agored eleni i wella’r profiad ar y campws i’n myfyrwyr, staff a’r gymuned ehangach.

“Diolch i waith caled iawn ein staff Ystadau a Gwasanaethau Campws, mae’r tiroedd yn ffynnu ac rydym am sicrhau eu bod yn parhau ar agor ac yn hygyrch i bawb.” 

Gallwch ddarganfod mwy am ein tiroedd arobryn


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The South Wales Chronicle