Home Newyddion Lle Newidiadau ar y ffordd wrth i gynllun llogi beiciau poblogaidd y ddinas...

Newidiadau ar y ffordd wrth i gynllun llogi beiciau poblogaidd y ddinas gael ei ailwampio

0
386
Advertisement

Ar ôl chwe blynedd lwyddiannus, mae cynllun llogi beiciau poblogaidd Abertawe yn cael enw newydd ac uwchraddiad mawr i wella ei wasanaeth i ddefnyddwyr ledled y ddinas.

Bydd Beiciau Prifysgol Abertawe yn lansio ddydd Llun 12 Awst. Gan weithio ar y cyd â nextbike UK, a chyda chymorth amhrisiadwy gan Gyngor Abertawe, mae’r Brifysgol yn cefnogi ail-lansio’r cynllun llogi beiciau hynod boblogaidd, sydd wedi hwyluso mwy na 150,000 o deithiau llesol a chynaliadwy ers ei lansio yn ôl yn 2018

Bydd y fflyd ddiweddaraf o feiciau, sydd wedi bod yn boblogaidd gyda myfyrwyr, y gymuned a thwristiaid fel ei gilydd, yn uwchraddiad ar y model blaenorol, gyda systemau cloi ac olrhain GPS newydd a gwell, ac mae’r gorsafoedd docio hefyd yn cael eu gweddnewid drwy gyflwyno system gloi newydd i wneud y broses llogi a dychwelyd yn haws byth.

Advertisement

Bydd y beiciau diweddaraf yn rhoi bywyd newydd i’r cynllun, gan sicrhau lefelau cynyddol o ddefnydd a phroffidioldeb parhaus.

Bydd hybiau yn yr un lleoliadau ag o’r blaen:

Campws Singleton

Campws y Bae

Maes Parcio a Theithio Ffordd Fabian

Knab Rock, Y Mwmbwls

Ystumllwynarth, Y Mwmbwls.

Bydd yr hybiau a leolwyd gynt ger Canolfan Ddinesig Abertawe ac Amgueddfa Genedlaethol y Glannau Abertawe yn cael eu disodli â dau safle cyfleus newydd i’w cyhoeddi’n fuan.

Er mwyn paratoi ar gyfer y lansiad, mae nifer y beiciau sydd ar gael yn cael eu leihau’n raddol tan ddiwedd y mis pan fydd cyfnod segur wrth i’r beiciau a’r gorsafoedd docio newydd gael eu gosod.

O 12 Awst, gellir llogi beiciau fel o’r blaen drwy ddefnyddio ap Next Bike.

Bydd BikeAbility Wales, yr elusen sy’n darparu hyfforddiant beicio lleol a gwasanaeth llogi beiciau hygyrch ac arbenigol, yn parhau i gefnogi gwaith cynnal a chadw cyffredinol beiciau a gorsafoedd docio’r cynllun.

Meddai Is-ganghellor Prifysgol Abertawe, yr Athro Paul Boyle: “Mae cynllun Beiciau Prifysgol Abertawe wedi’i uwchraddio yn adlewyrchu ymrwymiad ein Prifysgol a’n rhanbarth i atebion teithio cynaliadwy a llesol. Rydym yn ddiolchgar am gefnogaeth ein partneriaid i gyflawni’r fenter leol bwysig hon.

“Fel defnyddiwr rheolaidd y cynllun blaenorol, rwy’n hyderus y bydd yn parhau i gynnig ffordd

gynaliadwy ac iach i’n myfyrwyr, ein staff ac aelodau o’r gymuned archwilio ein dinas hardd, ein rhanbarth a’r tu hwnt.”

Ychwanegodd Swyddog Teithio Cynaliadwy’r Brifysgol, Jayne Cornelius: “Ar ôl chwe blynedd wych o Feiciau Santander a beiciau’n cael eu rhentu mwy na 150,000 o weithiau, rwy’n falch iawn ein bod yn parhau i gynnig cynllun llogi beiciau i’n staff, ein myfyrwyr a’r gymuned leol o dan faner newydd Beiciau Prifysgol Abertawe. Rwy’n falch iawn o gael cefnogaeth barhaus ein partneriaid i ddarparu teithio llesol fforddiadwy yma yn Abertawe.”


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The South Wales Chronicle