Home Caerphilly News Trigolion lleol yn cael eu gwahodd i leisio’u barn ar y cynllun...

Trigolion lleol yn cael eu gwahodd i leisio’u barn ar y cynllun Creu Lleoedd Tref Caerffili 2035

0
351
Advertisement

Gofynnir i drigolion Caerffili leisio eu barn ar gynlluniau Creu Lleoedd Tref Caerffili 2035 yn Llyfrgell Caerffili fis Gorffennaf.

Mae Tref Caerffili 2035 yn brosiect uchelgeisiol ar gyfer dyfodol canol tref Caerffili, sy’n anelu i drawsnewid y dref i fod yn ganol tref amrywiol sy’n ffynnu.

Mae Tref Caerffili 2035 yn bartneriaeth rhwng Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili a rhaglen Trawsnewid Trefi Llywodraeth Cymru.

Advertisement

Gyda dau sesiwn wyneb yn wyneb yn cael eu cynnal ddiwedd y mis yn Llyfrgell Caerffili, bydd cyfle i drigolion leisio’u barn ar faterion pwysig megis teithio, traffig, a pharcio o gwmpas canol tref Caerffili.

Bydd byrddau gwybodaeth wedi’i gosod o gwmpas y llyfrgell, gyda chyfleoedd i sgwrsio gyda thîm y prosiect, rhoi adborth ar syniadau posib, a dysgu mwy am brosiectau eraill Tref Caerffili 2035 – megis Ffos Caerffili, y farchnad sydd newydd agor.

Mi fydd y ddau sesiwn yn cael eu cynnal ar Ddydd Sadwrn, Gorffennaf 27 a Dydd Mawrth, Gorffennaf 30 o 10am.

Yn ystod y diweddariad cyntaf yn Hydref 2023, cafodd trigolion Caerffili eu cyflwyno i’r cynlluniau yma, sy’n cynnwys ailddatblygiad Stryd Pentrebane; y gyfnewidfa drafnidiaeth; Canolfan Ddiwylliant Caerffili (wedi’i arwain gan Cynefin Caerffili CIC); Ffos Caerffili a phrosiect gwerth miliynau o bunnoedd i drawsnewid Castell Caerffili i fod yn atyniad dreftadaeth o safon fyd-eang.

Gallwch ffeindio Llyfrgell Caerffili yn rhif 2, Y Twyn, Caerffili, CF83 1JL. Nodwch os gwelwch yn dda fod y llyfrgell ar gau rhwng 1pm – 2pm ar Ddydd Mawrth Gorffennaf 30ain.

Dywedodd y Cynghorydd Jamie Pritchard, Dirprwy Arweinydd y Cyngor: “Mae mewnbwn y cyhoedd yn y sesiynau yma yn hynod o bwysig i ddatblygiad parhaus cynllun Tref Caerffili 2035.

Roedden ni’n hapus i weld dros 350 o drigolion Caerffili yn rhoi adborth wyneb yn wyneb yn yr arddangosfa gyhoeddus ddiwethaf. Roedd dros 700 o ymatebion i’n holiadur ddigidol sydd hefyd yn golygu fod llawer o ddiddordeb ymysg trigolion.

Rydyn ni’n edrych ymlaen i barhau efo’r trafodaethau yma fydd yn llunio dyfodol canol tref Caerffili, felly dewch i rannu unrhyw syniadau sydd gennych.”

Am fwy o wybodaeth am y prosiect, ewch i: https://www.caerphillytown2035.co.uk/cy/


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The South Wales Chronicle