Home Newyddion Lle Y Brifysgol yn dathlu llwyddiant dwbl mewn cystadleuaeth awyrofod

Y Brifysgol yn dathlu llwyddiant dwbl mewn cystadleuaeth awyrofod

0
320
Cynrychiolwyr o ddau dîm buddugol Prifysgol Abertawe
Advertisement

Cafodd myfyrwyr Prifysgol Abertawe eu hanrhydeddu mewn her unigryw â’r nod o ddathlu doniau peirianwyr awyrofod y dyfodol.

Cynhaliwyd cystadleuaeth IT FLIES eleni gan Brifysgol Abertawe am ei phedwaredd flwyddyn, ac roedd dau dîm y Brifysgol yn gyd-enillwyr ar ôl diwrnod anodd o flaen arbenigwyr y diwydiant.

Mae IT FLIES yn gystadleuaeth dylunio a thrin awyrennau i fyfyrwyr sy’n cael ei chynnal bob blwyddyn yn UDA a’r DU ac yn cael ei threfnu gan Merlin Flight Simulation Group.

Advertisement

Dyluniodd timau Abertawe, o’r Gyfadran Gwyddoniaeth a Pheirianneg, awyren i ymladd tân o’r awyr a oedd yn gallu cario a gollwng 2,000kg o ddŵr neu ddeunydd gwrth-dân, sydd hefyd yn gallu cario neidwyr parasiwt ac offer i ymladd tân.

Cynrychiolwyr o ddau dîm buddugol Prifysgol Abertawe

Roeddent yn cystadlu yn erbyn myfyrwyr o Brifysgol De Cymru, Prifysgol Manceinion a Phrifysgol Gwyddorau Cymhwysol Amsterdam. Ymhlith y ceisiadau gan y timau a oedd yn ymweld oedd Cerbyd Awyr Di-griw “Wings for Aid”, y bedwaredd genhedlaeth o awyren ymladd, ac awyren fusnes uwchsonig.

Rhoddodd pob tîm gyflwyniad am y prosiect am 10 munud, ac yna cafodd yr awyrennau a ddyluniwyd ganddynt eu hedfan a’u hasesu gan y peilotiaid prawf ar un o efelychwyr MP521 Prifysgol Abertawe.

Enillodd tîm Abertawe dan arweiniad Liam Maloney y wobr am y cyflwyniad prosiect gorau hefyd, ac enillodd dyluniad awyren fusnes uwchsonig gan Adam Cleaver o Brifysgol De Cymru y wobr am y dyluniad mwyaf arloesol.

Dr David Philpott oedd yn beirniadu’r cyflwyniadau a’r peilotiaid prawf oedd Gordon McClymont a Rhys Williams. Cyflwynwyd eu gwobrau i’r enillwyr gan Chris Neal, rheolwr gyfarwyddwr Merlin Flight Simulation Group.

Meddai Marion Neal, o Merlin: “Roeddem wrth ein boddau’n gweld bod y ceisiadau mor amrywiol ag erioed, ac o safon uchel iawn eleni. Roedd yn wych rhoi cyfle i’r myfyrwyr ehangu eu gwybodaeth am hedfan a dysgu gan ein peilotiaid prawf profiadol.”

Meddai’r Athro Ben Evans, Pennaeth Peirianneg Awyrofod Prifysgol Abertawe: “Rydym yn falch iawn o’r addysg awyrofod a gynigiwn ac roeddem yn hapus iawn i gynnal y gystadleuaeth unwaith eto eleni.

“Roedd hon yn gystadleuaeth agos iawn ond rydym wrth ein boddau bod timau Abertawe wedi perfformio mor dda. Fodd bynnag, rydym yn gobeithio bod yr holl fyfyrwyr a gymerodd ran wedi’u hysbrydoli gan y profiad ac y byddant yn parhau ar eu taith yn y diwydiant awyrofod.”

Rhagor o wybodaeth am astudio peirianneg awyrofod ym Mhrifysgol Abertawe


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The South Wales Chronicle