
- Trwy gydol Wythnos Gwirfoddoli cymerodd cydweithwyr Dŵr Cymru ran mewn digwyddiadau gwirfoddoli o fewn cymunedau yng Nghymru a Sir Henffordd.
- Ers 2023 mae staff wedi cefnogi 46 o grwpiau cymunedol ac elunsennau drwy wirfoddoli am 732 o oriau.
- Mae gweithgareddau gwirfoddoli Dŵr Cymru’n canolbwyntio ar gael effaith bositif ar gymunedau a’r amgylchedd.
Dros y 12 mis diwethaf roedd staff Dŵr Cymru’n falch o gael y cyfle i gymryd rhan mewn dros 732 awr o wirfoddoli gan gefnogi 46 grŵp a sefydliadau cymunedol yn eu hardaloedd lleol. Bu’r cwmni a chydweithwyr o bob rhan o Gymru’n dathlu drwy gydol Wythnos Gwirfoddoli rhwng y 3ydd a 7fed o Fehefin drwy gynnal digwyddiadau yn ddyddiol yn eu cymuned leol.

Anogir staff Dŵr Cymru i ddefnyddio un diwrnod gwaith y flwyddyn i ymgymryd â gweithgareddau gwirfoddoli yn eu cymunedau. Gyda swyddfeydd, depos, a safleoedd gweithredol ledled Cymru a rhannau o Loegr, mae’r cwmni di-elw wedi ymrwymo i wneud gwahaniaeth bositif i gymunedau lleol, gan wella ein hamgylchedd, y ogystal â lles eu staff.
Mae’r cwmni hefyd yn galluogi staff i weithio gydag elusennau a sefydliadau i’w hannog i ddysgu sgiliau newydd a chwrdd â phobl newydd. Mae’r gweithgareddau gwirfoddoli’n amrywio o godi sbwriel, cefnogi canolfannau achub anifeiliaid, gweithio gyda phlant ag anableddau i plannu coed a gwella mannau awyr agored.
Daeth Dŵr Cymru a’u partneriaid, Morrison Utility Services at ei gilydd i gefnogi’r elusen RSPCA Llys Nini gydag amrywiaeth o weithgareddau gan gynnwys mynd â’r cŵn am dro, cymdeithasu gyda’r cathod, a phlannu Coed Nadolig, i helpu i godi arian hanfodol i’r ganolfan.
Dywedodd Debbie Davies, Rheolwr RSPCA Llys Nini: “Roeddem yn falch iawn o groesawu tîm o Dŵr Cymru ar ddiwrnod gwirfoddol corfforaethol yn ein canolfan anifeiliaid ym Mhenllergaer, Abertawe.”

Dywedodd Claire Roberts, Pennaeth Ymgysylltu Cymunedol Dŵr Cymru:
“Rydym yn falch o fod wedi cefnogi cymaint o achosion anhygoel trwy gydol Wythnos Gwirfoddoli, a dros y 12 mis diwethaf. Fel sefydliad nid-er-elw, mae cwsmeriaid wrth wraidd popeth yr ydym yn ei wneud. Rydym eisoes yn chwarae rhan allweddol yn ein cymunedau drwy ddarparu’r gwasanaethau mwyaf hanfodol – dŵr yfed glân a thrin dŵr gwastraff cyn ei ddychwelyd yn ôl i’r amgylchedd – ac rydym yn falch iawn o gefnogi elusennau a sefydliadau lleol drwy ein gwaith gwirfoddoli.
Rydym hefyd yn gweithio mewn partneriaeth â Cadwch Gymru’n Daclus i sefydlu hybiau swyddogol Cadwch Gymru’n Daclus a pharthau di-sbwriel yn ein swyddfeydd yn Linea a Pharc Cinmel. Mae’r ddau leoliad yn fannau storio canolog ar gyfer offer codi sbwriel, sydd ar gaeli grwpiau cymunedol a gwirfoddolwyr brwdfrydig i gychwyn ar sesiynau codi sbwriel ledled Cymru ac yn eu cymuned leol.
Mae’r fenter ysbrydoledig hon nid yn unig yn gwella ein hamgylchedd lleol ond hefyd yn gyfle gwych i gydweithwyr ddod at ei gilydd a blaenoriaethu eu llesiant.”
Help keep news FREE for our readers
Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The South Wales Chronicle











