Home Newyddion Lle Tegwen Bruce-Deans yw Prif Lenor Eisteddfod yr Urdd Maldwyn 2024

Tegwen Bruce-Deans yw Prif Lenor Eisteddfod yr Urdd Maldwyn 2024

0
486
Prif Lenor Eisteddfod yr Urdd Maldwyn 2024, Tegwen Bruce-Deans, Eisteddfod yr Urdd 2024 Main Prose Writer
Advertisement

Datgelwyd heddiw (dydd Gwener, 31 Mai) ar Lwyfan y Pafiliwn Gwyn yn Eisteddfod yr Urdd Maldwyn 2024 mai Tegwen Bruce-Deans o Landrindod, Maesyfed sydd wedi’i choroni fel Prif Lenor yr ŵyl mewn seremoni a noddir gan Brifysgol Caerdydd.

Yn ail yn y gystadleuaeth oedd Mirain Iwerydd o Grymych a Heledd Evans o Gaerdydd yn drydydd.

Enillodd Tegwen y Gadair yn Eisteddfod yr Urdd Sir Gaerfyrddin y llynedd, sy’n ei gwneud yr ail berson erioed i gyflawni’r “dwbl”. Cyflawnwyd yr un gamp gan Iestyn Tyne yn 2019.

Advertisement

Y dasg eleni oedd cyfansoddi darn neu ddarnau o ryddiaith dros 2,500 o eiriau ar y thema ‘Terfynau’. Daeth 19 ymgais i law gyda’r beirniad Elin Llwyd Morgan a Caryl Lewis “wedi mwynhau dethol a thrafod y darnau.”

Meddai Caryl Lewis am y gwaith buddugol: “Dyma stori syml ond pwerus am ferch sy’n disgwyl am ei chariad mewn gorsaf drenau (‘Llefydd helô a ffarwel’) gyda neges sy’n annhebygol o’i blesio. Mae’r arddull yn farddonol ar adegau ond heb fod yn chwithig, a’r frawddeg olaf gryno yn cyfleu cyfrolau.


“Yn ddi-gwestiwn, dyma ddarn mwyaf caboledig a soffistigedig y gystadleuaeth a’r darllenydd yn medru synhwyro fod yna law brofiadol wrth y llyw yn ein harwain trwy’r daith emosiynol. Mae gan yr awdur lais graenus a dawn naturiol i fedru synhwyro rhythm stori. Wrth ddarllen, roedd y ddwy ohonom yn llwyr ymgolli yn y sefyllfa ac yn anghofio mai beirniadu oedden ni. Dyna ydi dawn llenor – i greu rhith y gallwn ei gredu gan fynd â’n meddyliau i lefydd newydd.”

Graddiodd Tegwen yn y Gymraeg o Brifysgol Bangor yn 2022. Mae hi bellach wedi ymgartrefu ym Mangor ac yn gweithio i BBC Radio Cymru.

Cyhoeddodd ei chyfrol gyntaf o gerddi, ‘Gwawrio’, fel rhan o gyfres ‘Tonfedd Heddiw’ Cyhoeddiadau Barddas. Ers hynny mae hi wedi ymuno â thîm Talwrn Twtil, ac yn un o bum bardd sydd yn rhan o gynllun Pencerdd eleni trwy garedigrwydd Llenyddiaeth Cymru a Barddas. Mae ei gwaith barddonol wedi ymddangos mewn sawl cyhoeddiad – ond dydy ei gwaith rhyddiaith erioed wedi cyrraedd print, cyn heddiw.

Y gemydd a’r gof arian Mari Eluned o Fallwyd yw gwneuthurwraig y Goron eleni. “Fy mwriad oedd creu coron ifanc ei naws sy’n cyfleu cyfraniad gwerthfawr yr Urdd a chymunedau amaethyddol, megis Maldwyn, a’u pwysigrwydd i ddyfodol ein diwylliant a’n hiaith,” esbonia Mari.

Rhoddir y goron gan Undeb Amaethwyr Cymru, Cangen Trefaldwyn.

Bydd y cyntaf, ail a thrydydd yn y cystadlaethau llenyddol gydol yr wythnos yn cael cyfle i fynd ar Gwrs Olwen yn yng Nghanolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd, Llenyddiaeth Cymru er cof am Olwen Dafydd. Mae hyn yn bosib drwy nawdd Ymddiriedolaeth Olwen Griffith.


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The South Wales Chronicle