Mae prosiect gan Brifysgol Abertawe i wella dealltwriaeth o ymddygiad pysgod mewn afonydd a moroedd yng Nghymru wedi cael ei hybu gan gyllid gwerth £500,000.
Mae’r ymchwil i bysgodfeydd wedi cael dau ddyfarniad ar wahân gwerth £250,000 yr un ar ôl cyflwyno cynigion llwyddiannus i raglenni cyllid amgylcheddol uchel eu bri, a oruchwylir gan Lywodraeth Cymru.
Fe’i henwyd ymysg y prosiectau a fydd yn elwa o rownd ddiweddaraf y Gronfa Rhwydweithiau Natur. Darperir y Gronfa mewn partneriaeth â Chronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol a Cyfoeth Naturiol Cymru, ac mae’n helpu gwaith Llywodraeth Cymru tuag at nod 30 erbyn 30 y Fframwaith Bioamrywiaeth Byd-eang, sydd am ddiogelu 30 y cant o amgylcheddau morol, dŵr croyw a thiriogaethol y blaned, a’u rheoli’n effeithiol, erbyn 2030.

Mae’r tîm o Abertawe, sy’n gweithio yn y Gyfadran Gwyddoniaeth a Pheirianneg, bellach yn defnyddio’r cyllid i helpu i roi tagiau acwstig ar frithyllod y môr a gwangod ar Afon Tywi, ac eogiaid a gwangod ar Afon Gwy. Bydd hefyd yn helpu i gynnal a chadw casgliad mawr o dderbynyddion acwstig ym Môr Hafren er mwyn olrhain symudiadau pysgod ledled y môr.
Bydd hyn yn helpu i wella dealltwriaeth o batrymau mudo a gwerthuso risgiau datblygiadau morol megis gorsaf ynni Hinkley Point ac ynni adnewyddadwy morol.
At hynny, roedd yr ymchwilwyr ymysg tri sefydliad a lwyddodd eleni yn Her Môr-lynnoedd Llanw Llywodraeth Cymru gwerth £750,000, gan ennill y cyllid yng nghategori’r Amgylchedd.
Nod yr Her yw annog datblygiad prosiectau ymchwil sy’n gweithio mewn meysydd a allai helpu i fesur budd posib datblygu môr-lynnoedd llanw.
Gan weithio mewn partneriaeth â Fish Guidance Systems Ltd, Natural England, Batri Ltd a DST Innovations Ltd, gwnaeth yr ymchwilwyr greu argraff ar y beirniaid gyda’u gwaith i dagio a monitro pysgod er mwyn profi effeithiolrwydd dyfeisiau acwstig i atal pysgod fel mesur lliniaru ar gyfer defnyddio amrediadau llanw.

Roedd y staff, a ddechreuodd olrhain pysgod yn 2019, wrth eu boddau, gan ddweud y bydd cydnabyddiaeth ddeublyg y cynigion llwyddiannus yn eu helpu i adeiladu ar eu gwaith presennol yn Abertawe a’i ddatblygu.
Meddai Dr David Clarke, Cyfarwyddwr y Prosiect: “Mae’r cyllid hwn wir yn hollbwysig i’n hymchwil barhaus. Mae’n cefnogi astudiaethau mudo sy’n ymchwilio i symudiadau eogiaid yr Iwerydd, brithyllod y môr a gwangod sydd wedi’u tagio’n acwstig, a fydd yn ein galluogi i ddeall risgiau ynni adnewyddadwy morol i’r rhywogaethau hyn.
“Bydd hefyd yn ein galluogi i ddatblygu a mireinio technegau lliniaru – dyfeisiau acwstig i atal pysgod – er mwyn diogelu’r asedau naturiol pwysig hyn yn well.”
Help keep news FREE for our readers
Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The South Wales Chronicle












