Home Arts and Media “Dwi wedi gweld menywod yn profi rheolaeth orfodol neu ymddygiad gwenwynig sy...

“Dwi wedi gweld menywod yn profi rheolaeth orfodol neu ymddygiad gwenwynig sy ddim yn cŵl.”

0
475
Sound x Connagh Howard
Advertisement

Welsh: https://youtu.be/EvtkWeJn7R8

Ymwelodd y seren realiti Connagh Howard â’i hen ysgol i sgwrsio â myfyrwyr am berthnasoedd iach.

Seren Love Island, Connagh Howard, yw llysgennad enwog diweddaraf ymgyrch lwyddiannus Iawn – platfform sy’n annog dynion ifanc i gymryd cyfrifoldeb personol, ac ar y cŷd, i ddod â thrais yn erbyn menywod i ben.

Advertisement

Aeth ei rôl fel llysgennad ag ef yn ôl i’w hen ysgol, Ysgol Gyfun Glantaf yng Nghaerdydd, i siarad â disgyblion am berthnasoedd iach, y cyfryngau cymdeithasol ac agweddau negyddol tuag at fenywod.

Archwiliodd y myfyrwyr a Connagh beth mae’n ei olygu i fod mewn perthynas iach.

Dywedodd un myfyriwr: “Rhan fawr o berthynas iach yw ymddiriedaeth, ni ddylai fod angen mynd drwy ffonau eich gilydd, dyle ti allu gofyn pethau i dy bartner a dylen nhw fod yn onest gyda ti.

“[Yr hyn sy’n allweddol ar gyfer perthynas iach yw] bod gyda’ch gilydd am y rhesymau cywir fel mwynhau cwmni eich gilydd a’ch bod yn caru eich gilydd fel pobl, yn hytrach na’r syniad ohono. Dyna sy’n arwain at broblemau. Bydd yn onest am sut rwyt ti’n teimlo fel bod y ddau ohonoch chi’n gwybod eich bod yno am y rhesymau cywir.”

Dywedodd y myfyrwyr eu bod yn teimlo bod llawer o bobl yn mynd mewn i berthnasoedd o ganlyniad i bwysau cymdeithasol.

Connagh x Sound

“Dwi’n meddwl ei fod yn norm mewn cymdeithas, pan fydd pobl yn cyrraedd oedran penodol, maen nhw’n teimlo bod yn rhaid iddyn nhw [fod mewn perthynas]. Ein oedran ni, does dim angen achos mae da ti deulu gartref. Mae’n bwysig ei wneud am y rhesymau cywir a pheidio â brolio.”

Wrth drafod ei brofiadau ei hun, dywedodd Connagh ei fod wedi cael trafferth ffitio i mewn â’r bechgyn eraill yn ei flwyddyn ysgol. Fel dyn ifanc swil yng Nghaerdydd, dechreuodd chwarae rygbi lle’r oedd yn gweld llawer o ymddygiad ‘lads’, yn enwedig o amgylch merched.

Dywedodd: “Dwi bob amser wedi teimlo’n wahanol yn hyn o beth – hyd yn oed ar Love Island – roeddwn i’n teimlo’n wahanol a ddim yn perthyn i ‘Jack the lad‘. Roedd yn anodd tyfu i fyny gan mai fi oedd yr un swil bob amser a oedd yn rhy nerfus i siarad â merched a doedd gen i ddim llawer o hyder.

‘Ein cyfrifoldeb ni fel dynion yw i atal trais yn erbyn menywod.’

Lansiwyd ymgyrch Iawn yn 2023 ac mae’n helpu dynion i drafod ymddygiadau mewn perthnasoedd a hynny mewn ffordd ddiogel ac adeiladol.

Mae’n grymuso dynion ifanc i hyrwyddo a dathlu gwrywdod cadarnhaol, i fod yn atebol i’w gilydd am eu gweithredoedd, cefnogi ei gilydd i fod y fersiynau gorau ohonyn nhw eu hunain ac, o ganlyniad, ddod â thrais yn erbyn menywod i ben.

Dywedodd yr hyfforddwr personol a’r cyn-seren realiti ei fod yn awyddus i weithio gyda’r prosiect i godi ymwybyddiaeth o bwysigrwydd dynion yn trafod ymddygiad problematig ffrindiau tuag at fenywod gyda nhw.

“Fe wnes i ymwneud â’r ymgyrch [Iawn] oherwydd mae angen i ddynion gymryd cyfrifoldeb am ein rôl mewn atal trais yn erbyn menywod a’u helpu i deimlo’n fwy diogel mewn cymdeithas. Mae llawer o ddynion yn dweud nad eu cyfrifoldeb nhw yw hyn, ond ein cyfrifoldeb ni yw gwneud yr hyn a allwn i wella’r sefyllfa.”

‘Gall fod yn unig iawn, ond mae wedi dod â ni’n agosach.’

Connagh Howard x Sound

Yn ystod y cyfweliad, rhannodd y seren o Love Island ei feddyliau am y stigma sy’n bodoli ynghylch anffrwythlondeb mewn dynion, gan archwilio sut roedd yn teimlo “cywilydd” pan nad oedd e a’i bartner yn gallu dod yn feichiog.

Dyma’r tro cyntaf i Connagh siarad yn gyhoeddus am y mater ers iddo ef a’i bartner, ei gyd-seren realiti, Beth Dunlavey, gyhoeddi eu bod yn disgwyl eu plentyn cyntaf, ar ôl dwy rownd o IVF.

Yn ôl Connagh, a ymddangosodd yng nghyfres chwech Love Island, mae angen normaleiddio pynciau tabŵ fel anffrwythlondeb a siarad amdanynt yn amlach ymhlith dynion.

Dywedodd: “Wnes i erioed feddwl y byddwn i’n cael trafferth cael plant, roeddwn i’n meddwl y basai jest yn digwydd, ond mae’n gyffredin felly gorau po fwyaf y gallwch chi siarad amdano oherwydd mae’n syndod faint o bobl sy’n mynd drwyddo.

“Roedd yn anodd iawn weithiau. Gelli di weld sut y gall y sefyllfa fel hyn chwalu cwpl os nad ydych chi’n cefnogi’ch gilydd.

“Gall fod yn unig iawn, ond mae wedi dod â ni’n agosach. Roedd yna heriau a dadlau ond, yn y diwedd, chi’n sylweddoli bod y ddau ohonoch chi eisiau’r peth hyn i weithio gymaint, sydd yn y pen draw yn dod â chi’n agosach at eich gilydd.”

‘Os weli di rywbeth a dweud dim, yna dwyt ti ddim yn helpu’r broblem.’

Ar y pwnc o gamdriniaeth a thrais ar sail rhywedd, dywedodd Connagh ei fod wedi gweld ffrindiau benywaidd yn profi ymddygiadau problematig gan ddynion.

“Dwi wedi gweld menywod dwi’n eu hadnabod yn profi rheolaeth orfodol neu ymddygiad gwenwynig sy ddim yn cŵl ond yn anffodus mae’n lot rhy gyffredin ac mae llawer o fenywod yn ei brofi. Mae llawer o hyn yn digwydd oherwydd bod dynion yn ansicr ac yn teimlo’r angen i reoli rhywun arall.Er mwyn mynd i’r afael â hyn, mae’n credu bod angen i ddynion fod yn barod i siarad â’u ffrindiau a thrafod eu hymddygiadau tuag at fenywod, yn enwedig ar nosweithiau allan.

“Dw i wedi bod ar nosweithiau allan a gweld grwpiau o ddynion yn galw ar fenywod a dwi’n meddwl ‘o, ti’n edrych fel idiot’. Dylai pobl dynnu sylw at yr ymddygiad yma’n amlach, sut bydden nhw’n teimlo os taw eu merch nhw oedd hi?

“Mae’n cymryd llawer o ddewrder i dynnu sylw rhywun at ymddygiad problematig. Os weli di rywbeth a dweud dim, yna dwyt ti ddim yn helpu’r broblem.

“Os ydyn nhw wir yn ffrindiau i ti, fe ddylen nhw wrando a derbyn yr hyn rwyt ti’n ei ddweud oherwydd dyna yw pwrpas ffrindiau, dylen nhw gadw golwg arnat ti a gwneud yn siŵr nad wyt ti’n ychwanegu at y broblem.”

‘Ni ddylai termau newydd yn ymwneud â pherthynas gael eu harfogi.’

Wrth sgwrsio â myfyrwyr am yr hyn sy’n gwneud perthynas iach, archwiliodd Connagh y rôl y mae cyfryngau cymdeithasol yn ei chwarae wrth lunio safbwyntiau a chanfyddiadau pobl ifanc.

“Dwi’n meddwl bod agweddau wedi newid; mae’r genhedlaeth newydd yn fwy gwybodus am faterion cymdeithasol,” meddai.

“O’r blaen, roedd yna stwff na fyddai’n cael ei drafod oherwydd mae’r byd yn lle hollol wahanol nawr diolch i’r cyfryngau cymdeithasol, ond mae hefyd yn gallu portreadu delwedd ffug o berthnasoedd, nid ydyn nhw i gyd yn hapus a llawn heulwen, maen nhw’n gallu bod yn anodd.”

Mae’n credu y bydd normaleiddio termau fel ‘lovebomio’ a ‘negio’ yn codi ymwybyddiaeth o’r ymddygiadau hyn.

“Do’n i ddim yn ymwybodol o’r termau hyn pan oeddwn i’n iau,” meddai. “Ond mae’n dda gallu codi ymwybyddiaeth pobl am yr ymddygiadau hyn. Gall pobl arfogi’r pethau yma hefyd felly mae’n gydbwysedd anodd, ond yn y pen draw mae’n gwneud mwy o dda nag o ddrwg.”

Wrth siarad â’r myfyrwyr yn ei hen ysgol am hyn, dywedon nhw nad oeddent wedi clywed amdanyn nhw o’r blaen.

Gyda ‘lovebomio’, gofynnodd y myfyrwyr: “Ai pan ti’n mynd dros ben llestri ac yn ‘bomio’ rhywun â chariad?”

“Dwi’n credu bod pobl yn ei wneud heb sylweddoli. Dy’n nhw ddim eisiau brifo rhywun go iawn.”

Wrth drafod rheolaeth orfodol, dywedodd y myfyrwyr: “Dydw i ddim wedi clywed amdano, ond dwi’n dyfalu ei fod yn golygu rheoli bywyd rhywun a’u hatal nhw rhag byw eu bywyd. I fi, ddim perthynas yw hynna. Mae angen ymddiried yn eich gilydd.

Pan ofynnwyd iddynt a oedden nhw wedi cael profiad o hyn, dywedodd un o’r myfyrwyr: “Dwi’n meddwl mod i, nawr mod i’n gwybod beth ydyw, ond wnes i ddim sylweddoli hynny ar y pryd.”

I wylio fideo Connagh a dilyn y sianeli Iawn am gyngor a gwybodaeth ar y pynciau dan sylw, gweler y dolenni isod:

Instagram: www.instagram.com/soundcymru/

TikTok: www.tiktok.com/@soundcymru

YouTube: www.youtube.com/@soundcymru


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The South Wales Chronicle