Home Neath Port Talbot 300 yn rhagor o blant yn cael budd o gynllun Dechrau’n Deg...

300 yn rhagor o blant yn cael budd o gynllun Dechrau’n Deg yng Nghastell-nedd Port Talbot

0
521
pexels-alexander-grey-1449934
Advertisement

Mae 300 yn rhagor o blant yng Nghastell-nedd Port Talbot wedi cael budd yn sgil ehangu cynllun Dechrau’n Deg Llywodraeth Cymru, sydd â’r nod o roi cymorth i blant a theuluoedd.

Mae Dechrau’n Deg yn helpu teuluoedd â phlant bach yn yr ardaloedd mwyaf difreintiedig, gan gynnig gofal plant rhan-amser o safon uchel wedi’i ariannu i blant 2 a 3 oed sy’n byw yn yr ardaloedd hynny. Lle bo angen, mae hyn yn cynnwys cymorth magu plant; cymorth estynedig gan ymwelydd iechyd; a chymorth ar gyfer lleferydd, iaith a chyfathrebu.

Mae ymestyn rhaglen Dechrau’n Deg yn rhan o gynlluniau i ehangu elfen gofal plant y ddarpariaeth blynyddoedd cynnar yn raddol i bob plentyn 2 oed yng Nghymru.

Advertisement

Aeth Tîm Blynyddoedd Cynnar a Dechrau’n Deg Cyngor Castell-nedd Port Talbot y tu hwnt i’w darged o gefnogi 251 o blant 2 oed drwy gofrestru mwy na 300 yn y cynllun. Bu’r tîm yn ymgysylltu â darparwyr gofal plant ledled y fwrdeistref sirol er mwyn sicrhau bod y cynllun ar gael mewn amrywiaeth o leoliadau a gwasanaethau gwarchod plant, gan gynnig mwy o ddewis a mynediad i deuluoedd. O ganlyniad i hyn, mae 17 yn rhagor o ddarparwyr gofal plant bellach yn cynnig lleoliadau gofal plant Dechrau’n Deg i deuluoedd yng Nghastell-nedd Port Talbot.

Dywedodd y Cynghorydd Nia Jenkins, sef Aelod Cabinet Cyngor Castell-nedd Port Talbot dros Addysg a’r Blynyddoedd Cynnar: “Mae darpariaeth o safon uchel yn y blynyddoedd cynnar yn cefnogi ac yn cyfoethogi datblygiad plant ac yn chwarae rhan hanfodol yn y broses o baratoi plant i fynd i’r ysgol.

“Rydyn ni’n falch dros ben o waith caled ac ymroddiad ein tîm a’r cydweithio â darparwyr gofal plant sydd wedi gwneud hyn yn bosibl.

“Mae Cyngor Castell-nedd Port Talbot yn ymrwymedig i sicrhau bod pob plentyn yn cael y dechrau gorau posibl mewn bywyd.”

I weld a ydych yn gymwys ar gyfer Dechrau’n Deg, neu i gael gwybod pa help y gallech ei gael i dalu costau gofal plant, ewch i: https://beta.npt.gov.uk/cy/tai-a-budd-daliadau/help-gyda-chostau-byw/gofal-plant/


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The South Wales Chronicle