
Wrth i 2023 ddod i ben, mae St John Ambulance Cymru yn diolch i’r holl bobl a sefydliadau sydd wedi cefnogi’r elusen dros y flwyddyn ddiwethaf, yn enwedig Seminar Components Ltd, ei phartneriaid corfforaethol.
Ar ôl enwi elusen cymorth cyntaf Cymru fel ei ‘helusen y flwyddyn’ gyntaf erioed ym mis Ionawr, mae’r cwmni dylunio a gweithgynhyrchu seddi wedi codi dros £2,000 drwy amrywiaeth o weithgareddau codi arian. Mae St John Ambulance Cymru yn estyn ei ddiolch i bawb yn Seminar Components am eu gwaith caled a’u haelioni drwy gydol 2023.
Mae’r busnes, sydd wedi’i leoli yn Abertawe, yn gyflenwr blaenllaw o ran mecanweithiau seddau codi a gogwyddo wrth fesur. Dechreuodd y bartneriaeth ar ôl i St John Ambulance Cymru helpu i gyflenwi diffibriliwr a chyflwyno sesiynau hyfforddi cymorth cyntaf hanfodol i weithwyr y cwmni.
I Seminar Components, roedd dewis partner elusennol nid yn unig yn ffordd wych o wella morâl staff trwy ddigwyddiadau a gweithgareddau hwyliog, ond roedd hefyd yn ffordd o roi rhywbeth yn ôl i’w cymuned leol.
Yn dilyn y bartneriaeth blwyddyn o hyd, mae’r busnes yn myfyrio ar lwyddiant eu hymdrechion codi arian. Dywedodd Annmarie Foligno, Rheolwr AD ar gyfer Seminar Components Ltd: “Fe wnaethom ni yn Seminar Components ddewis cefnogi St John Ambulance Cymru fel ein partneriaeth elusennol gyntaf ers i’n gweithrediad ddechrau oherwydd y gwaith gwych y maent yn ei wneud ar gyfer y gymuned.
“Dros y flwyddyn ddiwethaf rydym wedi defnyddio ein partneriaeth ag St John Ambulance Cymru i hybu morâl ein gweithwyr a boddhad yn y gweithle trwy werthiannau pobi, rafflau, twrnameintiau golff a nifer o hanner marathonau a gwblhawyd gan ein gweithwyr dewr.
“Mae’r digwyddiadau hyn nid yn unig wedi ein galluogi i ddod â’n tîm at ei gilydd ond gyda’i gilydd maent wedi codi dros £2,000 at elusen, ac ni allem fod yn fwy balch o’u hymdrechion i godi’r arian ar gyfer achos mor dda.”
Bydd y cronfeydd hanfodol hyn yn cefnogi gwaith achub bywyd St John Ambulance Cymru yng nghymunedau Cymru. O arddangosiadau cymorth cyntaf am ddim mewn ysgolion a grwpiau cymunedol, i raglenni ieuenctid pwysig i blant a phobl ifanc. Bydd rhai o’r arian hefyd yn cefnogi gwirfoddolwyr ymroddedig yr elusen sy’n cadw’r cyhoedd yn ddiogel mewn digwyddiadau ledled y wlad.
Os oes gan eich cwmni ddiddordeb mewn partneru ag elusen cymorth cyntaf Cymru yn 2024, cysylltwch â Thîm Codi Arian St John Ambulance Cymru. Cysylltwch heddiw trwy e-bost: fundraising@sjacymru.org.uk neu dros y ffôn: 029 2044 9626.
Help keep news FREE for our readers
Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The South Wales Chronicle












