· RWE yn dechrau ymgynghoriad cyn ymgeisio ar y cynnig i adeiladu fferm wynt i’r gogledd o Gronfa Ddŵr Alwen
· Os caiff ei chymeradwyo, gallai Fferm Wynt Coedwig Alwen gynhyrchu pŵer sy’n cyfateb i anghenion 63,500 o gartrefi bob blwyddyn – mwy na chyfanswm nifer yr aelwydydd yng Nghonwy ac yn Sir Ddinbych.
· Gallai’r prosiect gyflwyno pecyn o gefnogaeth i fentrau cymunedol yn yr ardal, a chynnig cyfle i bobl a sefydliadau lleol brynu cyfranddaliadau trwy Ynni Cymunedol Cymru.
Mae RWE, prif gynhyrchydd trydan Cymru, yn lansio ymgynghoriad ar gynigion i adeiladu fferm wynt yng ngogledd Cymru a fyddai’n gallu cynhyrchu pŵer sy’n cyfateb i anghenion 63,500 o gartrefi – nifer sy’n fwy na’r holl aelwydydd yng Nghonwy ac yn Sir Ddinbych.
Os caiff ei chymeradwyo, bydd Fferm Wynt Coedwig Alwen yn pontio ardaloedd Bwrdeistref Sirol Conwy a Chyngor Sir Ddinbych, ar safle i’r gogledd o Gronfa Ddŵr Alwen, ger Llyn Brenig a hefyd Fferm Wynt Coedwig Clocaenog weithredol RWE.
Bydd yr ymgynghoriad cyn ymgeisio yn rhedeg o 13 Rhagfyr ac yn para am wyth wythnos – mae hyn bythefnos yn hirach na’r cyfnod ymgynghori statudol i ganiatáu ar gyfer gwyliau’r Nadolig.
Yn ogystal â sicrhau bod y wybodaeth berthnasol ar gael ar-lein, bydd RWE yn cynnal dau ddigwyddiad personol yn Nantglyn a Cherrigydrudion, gan alluogi mynychwyr i gwrdd â’r tîm a gweld gwybodaeth am y prosiect, gan gynnwys mapiau, ffotogyfosodiadau a’r Datganiad Amgylcheddol drafft, yn ogystal â rhoi adborth.
Mae’r prosiect yn cynnwys hyd at naw tyrbin hyd at 200m o uchder gyda chapasiti gosodedig o tua 60MW, ynghyd â storfa batris a chynllun rheoli cynefinoedd. Yn ogystal â hyn, mae’r cais hefyd yn cwmpasu’r cysylltiad grid rhwng Alwen a Chlocaenog, y bwriedir iddo fod, i raddau helaeth, o dan y ddaear a defnyddio’r seilwaith presennol ar fferm wynt Coedwig Clocaenog.

Dywedodd Rheolwr Prosiectau RWE, Martin Cole: “Ers 2017, rydym wedi bod yn gweithio’n galed i ddatblygu ein cynnig ar gyfer Fferm Wynt Coedwig Alwen, ar ôl cynnal asesiadau manwl ar y safle ar fanylion megis amodau gwynt, ecoleg, cyflwr y tir a mynediad, cynnal trafodaethau â phartïon â diddordeb, cynnal ymgynghoriad cyhoeddus anffurfiol yn 2020 a chasglu llawer iawn o wybodaeth werthfawr.
“Rydym nawr yn ceisio mewnbwn terfynol gan bobl leol ac ymgyngoreion statudol a rhanddeiliaid eraill sydd â diddordeb fel rhan o’r ymgynghoriad cyn ymgeisio, cyn cyflwyno’r cais cynllunio’n derfynol i Weinidogion Cymru, a fydd yn gwneud penderfyniad maes o law.
“Ochr yn ochr â chronfa gymunedol a’r cyfleoedd economaidd sydd ar gael i fusnesau lleol, yr ydym yn darparu’r ddau ohonynt yn ein Fferm Wynt Coedwig Clocaenog gerllaw, rydym yn gweithio gydag Ynni Cymunedol Cymru i gynnig y cyfle hefyd i bobl leol elwa’n uniongyrchol o’r fferm wynt.
“Trwy sefydlu sefydliad cydweithredol Ynni Hiraethog, i ddal cyfran o hyd at 15 y cant o’r prosiect, bydd pobl yn gallu rhannu’r refeniw a gynhyrchir.”
Yn ogystal â chynhyrchu trydan glân, gwyrdd a chynnig cyfran o’r prosiect, mae RWE hefyd wedi ymrwymo i gefnogi’r cymunedau sy’n cynnal prosiectau ynni adnewyddadwy drwy gynnig pecynnau buddion cymunedol hyblyg sy’n cael eu rheoli gan y cymunedau eu hunain.

Ar gyfer Fferm Wynt Coedwig Alwen, mae RWE yn bwriadu llunio pecyn o fuddion a fydd eto o fudd uniongyrchol i bobl leol. Hyd yma, mae prosiectau ffermydd gwynt RWE ledled Cymru wedi buddsoddi dros £15 miliwn mewn cronfeydd cymunedol.
Mae’r ddogfen ganolog, y Datganiad Amgylcheddol drafft, ynghyd â’r holl ddogfennau cynllunio drafft eraill, i’w gweld ar wefan y prosiect, https://uk.rwe.com/project-proposals/alwen-forest/ a byddant hefyd ar gael i gweld yn yr arddangosfeydd.
Bydd crynodeb annhechnegol drafft hefyd ar gael i’w weld yn Siop Uwchaled, Cerrigydrudion, a Thŷ Eglwys Nantglyn, Nantglyn.
Unwaith y daw’r cyfnod ymgynghori i ben, bydd RWE yn ystyried adborth cyn cyflwyno’r cais cynllunio Datblygiad o Arwyddocâd Cenedlaethol ffurfiol i Benderfyniad Cynllunio ac Amgylchedd Cymru.
Os bydd y prosiect yn cael caniatâd, disgwylir i’r gwaith o baratoi’r safle a’r gwaith adeiladu ddechrau yn 2026 gyda’r nod o sicrhau bod y fferm wynt yn gwbl weithredol yn 2028.
Help keep news FREE for our readers
Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The South Wales Chronicle











