Home Newyddion Lle Prifysgol Abertawe’n rhan o Ysgol Graddedigion Gwyddorau Cymdeithasol newydd Cymru

Prifysgol Abertawe’n rhan o Ysgol Graddedigion Gwyddorau Cymdeithasol newydd Cymru

0
460
Advertisement

Mae Prifysgol Abertawe’n rhan o bartneriaeth newydd sydd wedi sicrhau £18.5 miliwn o gyllid i hyfforddi gwyddonwyr cymdeithasol ar draws Cymru ar amrywiaeth o faterion sy’n effeithio ar gymdeithas heddiw.

Mae Ysgol Graddedigion Gwyddorau Cymdeithasol Cymru (WGSSS) yn un o 15 partneriaeth hyfforddiant doethurol newydd a gyhoeddwyd gan y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol (ESRC) yn dilyn cyflwyno cais llwyddiannus am gyllid.

Bydd y partneriaethau hyfforddiant doethurol yn cynnig ystod o gyfleoedd hyfforddiant datblygiad proffesiynol i wella gallu ymgeiswyr doethurol a datblygu ymhellach weithlu medrus o’r radd flaenaf ar gyfer y DU.

Advertisement

Mae’r Ysgol hon yn gydweithrediad rhwng Prifysgol Abertawe, Prifysgol Caerdydd, Prifysgol Aberystwyth, Prifysgol Bangor, Prifysgol Metropolitan Caerdydd, Prifysgol De Cymru a Phrifysgol Swydd Gaerloyw. Mae Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant yn aelod cysylltiol ac yn cyfrannu at hyfforddiant a rennir a datblygu ymchwilwyr.

Gyda chyfanswm o £40 miliwn yn cael ei fuddsoddi mewn ymchwil a hyfforddiant ôl-raddedig yn y gwyddorau cymdeithas, bydd yr Ysgol hon yn cyflwyno hyd at 360 o ysgoloriaethau ymchwil ar draws pum carfan flynyddol o 2024. Bydd hi’n creu cymuned integredig o ymchwilwyr ar draws Cymru drwy Blatfform Hyfforddiant cyffredin a gefnogir gan yr ESRC, Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (CCAUC) a phrifysgolion partner.

Gan weithio’n agos gyda Chymdeithas Ddysgedig Cymru, bydd hi’n cynnig cymorth i fyfyrwyr a goruchwylwyr y gwyddorau cymdeithasol ar ddatblygiad gyrfa, lles a chynhwysiant.

Meddai Arweinydd Academaidd Abertawe Lucy Griffiths:”Rydym yn falch o fod yn rhan o Ysgol Graddedigion Gwyddorau Cymdeithasol newydd Cymru. Bydd ein rôl yn y bartneriaeth yn creu cyfleoedd i gryfhau a datblygu ymchwil gwyddor gymdeithasol flaenllaw Abertawe ymhellach.

“Rydym yn croesawu ceisiadau am ysgoloriaethau ymchwil a ariennir yn llawn gan y rhai hynny sydd am ddilyn PhD yn Abertawe mewn un o’r 15 o lwybrau a gynigir yma, ac edrychwn ymlaen at weithio gyda’r genhedlaeth nesaf o ymchwilwyr”.

Caiff yr Ysgol ei chefnogi gan ddyfarniad gwerth £18.5 miliwn gan yr ESRC, gydag arian cyfatebol gan brifysgolion partner ac £1.5 miliwn ychwanegol o fuddsoddiad gan bartneriaid strategol gan gynnwys Llywodraeth Cymru, y Swyddfa Ystadegau Gwladol, Cyfoeth Naturiol Cymru, Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru, Bargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd a Swyddfa’r Comisiynydd dros Les Cenedlaethau’r Dyfodol.

Mae gwybodaeth am sut i gyflwyno cais ar gyfer ysgoloriaethau ymchwil drwy Gystadleuaeth WGSSS ar gyfer 2024/25 ar gael ar tudalen we’r ysgoloriaethau ymchwil.



Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The South Wales Chronicle