Home Newyddion Lle Rhowch eich troed gorau ymlaen ac ymunwch â thaith gerdded elusennol ar...

Rhowch eich troed gorau ymlaen ac ymunwch â thaith gerdded elusennol ar y traeth

0
530
walkers 2022
Advertisement

Mae Prifysgol Abertawe yn annog gwirfoddolwyr i ddod i helpu gyda’i digwyddiad codi arian blynyddol i helpu i godi arian ac ymwybyddiaeth o hunanladdiad.

Cynhelir HOPEWALK 23 ddydd Sul 22 Hydref er budd PAPYRUS, yr elusen atal hunanladdiad sy’n cynnig cymorth a chyngor cyfrinachol i bobl ifanc.

Mae’r daith gerdded gylchol ar y traeth yn cael ei threfnu gan Wasanaeth Lles ac Anabledd y Brifysgol. Mae’n daith tair milltir a fydd yn dechrau ac yn gorffen yn The Secret Bar and Kitchen ar Heol Ystumllwynarth a dylai unrhyw un sydd am gymryd rhan gwrdd yno am 10am.

Advertisement

Yn ôl yn 2019 pan gynhaliodd y Brifysgol ei digwyddiad cyntaf, daeth ychydig o dan 100 o bobl i gymryd rhan ac ers hynny mae wedi parhau i fynd o nerth i nerth, gan lwyddo i godi miloedd o bunnoedd er gwaethaf heriau’r pandemig a’r tywydd stormus.

Hopewalkers 2022

Unwaith eto eleni mae’r Gwasanaeth Lles ac Anabledd yn gobeithio y bydd aelodau’r Brifysgol a’r gymuned leol yn cefnogi’r achos da.

Meddai Holly Fisher, Pennaeth Gwasanaethau Cymorth Cynhwysol i Fyfyrwyr Prifysgol Abertawe: “Ym Mhrifysgol Abertawe, mae iechyd meddwl, lles ac atal hunanladdiad yn flaenoriaeth ac mae partneru â gwasanaethau hanfodol fel Papyrus yn ein galluogi i ddatblygu yn y meysydd hyn. Rydym wrth ein boddau’n cefnogi neges mor hollbwysig a chyfrannu at leihau’r stigma ynghylch hunanladdiad a chodi arian at achos rhagorol.”

Meddai David Heald, rheolwr ardal PAPYRUS:”Mae mwy o bobl ifanc o dan 35 oed yn y DU yn marw oherwydd hunanladdiad nag unrhyw beth arall. Mae’n rhaid i ni leihau nifer y bobl ifanc sy’n lladd eu hunain drwy chwalu’r stigma ynghylch hunanladdiad a meithrin y sgiliau i adnabod ac ymateb i ymddygiad hunanladdol.”

Yn ystod mis Hydref, cynhelir digwyddiadau HOPEWALK ledled y DU i godi ymwybyddiaeth o hunanladdiad ymhlith pobl ifanc.

Cofrestrwch nawr am y digwyddiad yn Abertawe neu gallwch roddi i PAPYRUS drwy JustGiving

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â Carl Ely

Caption: Cerddwyr a gymerodd ran yn nigwyddiad HOPEWALK y llynedd


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The South Wales Chronicle