Darparu Cysylltedd Gigabit i Fusnesau a Phreswylwyr ar draws y Ddinas
Heddiw mae Telcom, adeiladwr meddalwedd blaenllaw a darparwr rhwydweithiau rhyngrwyd gradd busnes cyflym iawn wedi cyhoeddi ei fod wedi’i ddewis gan Gyngor Caerdydd i gyflenwi cysylltedd gigabit hyper-gyflym i drigolion a busnesau ledled Caerdydd.
Mae gan sawl rhan o Gaerdydd fynediad at gysylltedd cyflym wedi’i bweru gan ffeibr ond mae rhai ardaloedd lle mae rhaniad digidol wedi dod i’r amlwg oherwydd y dull clytwaith a ddefnyddiwyd i adeiladu’r rhwydweithiau gan weithredwyr presennol. Mae’r bylchau hyn rhwng dulliau adeiladu rhwydweithiau wedi arwain at ddiffyg argaeledd ffeibr teg ar gyfer rhai eiddo, ac maen nhw ar ei hôl hi yn y ras ddigidol. Mae’r trigolion a’r busnesau hyn yn dal i ddibynnu ar seilwaith copr etifeddol ac o’r herwydd maent yn dioddef o wasanaethau band eang gwael. Mae Cyngor Caerdydd wedi ymrwymo i sicrhau nad yw ei ddinasyddion yn dod yn stori ddigidol am ddwy ddinas a bod cysylltedd ffeibr llawn ar gael ledled y ddinas erbyn 2025, gan greu cynhwysiant digidol i bawb.
Yn flaenorol, cyflwynodd y Cyngor gais i Gronfa Band Eang Lleol Llywodraeth Cymru i fynd i’r afael ag ardaloedd yng Nghaerdydd sy’n derbyn gwasanaethau band eang gwael. Ym mis Mawrth 2022 llwyddodd y Cyngor i sicrhau cyllid i ddarparu ffeibr llawn Gigabit i’r safleoedd a nodwyd yng ngham cyntaf rhaglen gyflwyno ehangach. Trwy broses dendro gystadleuol, dewiswyd Telcom fel eu partner seilwaith digidol i ddarparu rhwydwaith ffeibr cyflawn hyper-gyflym newydd yn seiliedig ar ei weledigaeth o Ddinas Hyper-gyflym, sy’n gallu cysylltu trigolion a busnesau Caerdydd â dyfodol cynaliadwy.
Dywedodd Aelod Cabinet Cyngor Caerdydd dros Gyllid, Moderneiddio a Pherfformiad, y Cyng Chris Weaver: “Bydd y prosiect hwn yn darparu band eang ffeibr o ansawdd uchel i rai o’r cymunedau mwyaf difreintiedig yng Nghaerdydd.
“Ynghyd â’r gwelliannau sylweddol i seilwaith band eang, na fyddai wedi cael eu darparu gan weithredwyr masnachol, mae Telcom hefyd yn cynnig Tariff Gwerth Cymdeithasol, yn ogystal â chyfleusterau cyflogaeth a hyfforddiant lleol trwy Bŵt-camp Peirianneg Telcom a fydd yn cael ei lansio i drigolion Caerdydd y gaeaf hwn.
“Bydd y cynllun yn parhau i gael ei gyflwyno gan Telcom tan fis Ionawr 2024 trwy gam cyntaf y prosiect. Ar hyn o bryd mae’r ail gam ar y cam tendr, gyda chontract yn cael ei ddyfarnu yn ddiweddarach eleni a bydd yn cael ei gyflawni yn ystod 2024/25.”
Dywedodd Shaun Gibson Cyd-sylfaenydd a Phrif Swyddog Gweithredol Grŵp Telcom, “Rydym yn falch iawn ein bod ni wedi cael ein dewis gan Gyngor Caerdydd a hefyd eu bod yn ymddiried ynom i roi’r cyfrifoldeb mawr i ni o helpu i gau’r rhaniad digidol ar draws y ddinas, ac wrth wneud hynny sicrhau cynhwysiant digidol. Bydd cyflwyno’r rhwydwaith ffeibr llawn Dinas Hyper-gyflym yn cael gwared ar rwystrau i dwf ac arloesedd ac yn helpu i weithredu fel catalydd ar gyfer datblygiad economaidd a chymdeithasol, trwy gysylltu preswylwyr a busnesau am byth. Yn y pen draw, bydd sicrhau bod gan yr eiddo a wasanaethir fynediad at gysylltiadau rhyngrwyd hyper-gyflym yn creu Caerdydd well, gyrru twf a diogelu ei heconomi at y dyfodol.”
Help keep news FREE for our readers
Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The South Wales Chronicle












