Mae deg ymchwilydd o Brifysgol Abertawe – traean o’r garfan eleni – wedi’u dewis ar gyfer Crwsibl Cymru 2023, rhaglen datblygu personol, proffesiynol ac arweinyddiaeth arobryn ar gyfer arweinwyr ymchwil y dyfodol yng Nghymru.
Bob blwyddyn, dewisir 30 ymchwilydd eithriadol yng Nghymru i gyfranogi mewn cyfres o weithdai preswyl – neu labordai sgiliau – sy’n eu galluogi i elwa o weithio gydag ymchwilwyr o ddisgyblaethau eraill.
Mae’r gweithdai hefyd yn helpu’r cyfranogwyr i archwilio sut gall eu hymchwil gael mwy o effaith yn ogystal â sut i feithrin gyrfaoedd ymchwil ryngwladol yng Nghymru.
Meddai’r Athro Helen Griffiths, Dirprwy Is-ganghellor ar gyfer Ymchwil ac Arloesi: “Rydyn ni’n falch iawn o’n cymuned ymchwil yma yn Abertawe, ac mae’n hyfryd gweld cynrychiolaeth gref iawn o Abertawe yn rhaglen Crwsibl Cymru eleni.
“Mae cynnwys ein hymchwilwyr yn adlewyrchu ein hymrwymiad i ymchwil ryngddisgyblaethol, gydweithredol, ac yn amlygu ehangder a dyfnder ein harbenigedd ymchwil.
“Bydd cyfranogi yn rhaglen Crwsibl Cymru’n rhoi cyfle unigryw iddyn nhw i gyd i ddatblygu eu doniau a mireinio eu sgiliau, gan wella eu cyfleoedd ymchwil – rhywbeth a fydd o fudd mawr wrth i ni fynd i’r afael â heriau lleol a byd-eang.”
Dyma’r ymchwilwyr sydd wedi’u dewis:
Dr Zari Tehrani
Mae Crwsibl Cymru yn fenter gydweithredol a ariennir gan gonsortiwm o sefydliadau addysg uwch yng Nghymru a Chyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru.
Help keep news FREE for our readers
Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The South Wales Chronicle












