Home Newyddion Lle Gwasanaethau newydd yn denu miloedd o deithwyr ar lein Glynebwy

Gwasanaethau newydd yn denu miloedd o deithwyr ar lein Glynebwy

0
523
197 launch on Ebbw Vale line at Llanilleth
Advertisement

Mae dros 60,000 o deithiau ychwanegol wedi’u gwneud ar lein Glynebwy ers lansio’r gwasanaethau trên newydd i Gasnewydd.

Cwblhaodd Network Rail waith yn sgil gwerth £70 miliwn o fuddsoddiad yn y seilwaith ar y lein y llynedd er mwyn cynyddu’r gwasanaethau ar y lein i ddau bob awr.

Dechreuodd y gwasanaethau uniongyrchol cyntaf rhwng Glynebwy a Chasnewydd ym mis Ionawr gan bron i ddyblu nifer y gwasanaethau dyddiol o 33 i 63.

Advertisement

Ac ers dechrau’r flwyddyn, mae 317,267 o bobl wedi teithio ar y lein o’i gymharu â 253,283 yn ystod yr un cyfnod yn 2023.

Dywedodd Marie Daly, y Prif Swyddog Cwsmeriaid a Diwylliant fod y prosiect yn dyst i waith caled pawb oedd yn rhan o’r prosiect.

Dywedodd: “Mae’n wych gweld cwsmeriaid yn defnyddio ein gwasanaethau a’r cysylltiadau newydd i Gasnewydd yn parhau i gynyddu pob mis.

“Mae’r ffaith bod gan y lein bellach ddau drên yn rhedeg pob awr i bob cyfeiriad yn wych i’r rhai sy’n mynd i’r gwaith, ar gyfer addysg, i hamddena neu ar gyfer apwyntiadau.  Mae hyn yn rhoi mwy o gyfle i gwsmeriaid ddewis trafnidiaeth gynaliadwy.

“Roedd prosiect Ebwy yn enghraifft wych ohonom ni yn cydweithio’n agos gyda Network Rail a Chyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent. Mae’r ffigurau hyn yn dyst i’r gwaith caled sydd wedi bod yn digwydd y tu ôl i’r llenni ers blynyddoedd lawer.”

Dywedodd Nick Millington, cyfarwyddwr llwybrau Network Rail ar gyfer Cymru a’r Gororau:  “Mae’n wych gweld cymaint mwy o deithwyr yn defnyddio lein Glynebwy yn ystod y misoedd diwethaf. Mae hyn yn golygu bod mwy o deithiau carbon isel a diogel yn cael eu gwneud, a gwella cysylltedd cymunedau hefyd.

“Mae’r uwchraddiad i’r rheilffordd hefyd wedi diogelu’r cysylltiad cludo nwyddau rheilffordd pwysig ar hyd lein Glynebwy i Chwarel Machen. Mae nwyddau rheilffordd ar y lein hon wedi gweld adfywiad yn ddiweddar; mae’n helpu i roi hwb i economi lleol De Cymru, lleihau nifer y lorïau sy’n teithio ar ein ffyrdd ac allyriadau.

“Ond yn anad dim, mae’r gwelliannau a wnaed i lein Glynebwy yn tanlinellu pwysigrwydd cydweithio a’r hyn y gellir ei gyflawni pan fyddwn ni a’n partneriaid yn gweithio gyda’n gilydd.”

Ym mis Rhagfyr, dim ond 357 o deithiau a wnaed rhwng Casnewydd a Glyn Ebwy oherwydd bod y daith yn golygu teithio yn gyntaf i Gaerdydd cyn teithio yn ôl i fyny’r cwm. Erbyn mis Chwefror, roedd y nifer wedi cyrraedd 3,399. Ac ar gyfer mis Mai, cofnodwyd bod 4,846 o bobl wedi teithio ar y lein.

Dywedodd Sammy Fairbanks, Rheolwr yr Orsaf, bod hwn yn “newyddion gwych i’r ardal”.

“Heb os, rydym wedi gweld cynnydd yn nifer teithwyr ar gyfer gwasanaethau Ebwy.  Bydd yn ddiddorol gweld faint rhagor o gynnydd fydd yn ystod y misoedd nesaf.

“Rwy’n falch o weld y lein yn mynd o nerth i nerth.  Mae hyn yn newyddion rhagorol i’r ardal.”


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The South Wales Chronicle