
Video link: https://youtu.be/Z49jrMCE6Y4
Mae ardal fawr o fawndir, sydd yr un maint â 70 o gaeau rygbi, wedi cael ei hadfer yn llwyddiannus yng Nglyncorrwg, Castell-nedd Port Talbot. Mae Mawndiroedd Coll De Cymru, sef prosiect partneriaeth a ariennir gan Gronfa Treftadaeth y Loteri, wedi bod yn gweithio i adfer y safle 50 hectar ers mis Chwefror 2023.
Mae mawndiroedd, a elwir hefyd yn fawnogydd neu’n gorsydd, yn gwneud cyfraniad hollbwysig at ddiogelu’r amgylchedd a brwydro yn erbyn newid hinsawdd. Gall mawndiroedd sydd mewn cyflwr da weithredu fel sbyngau anferth, gan amsugno a storio llawer o garbon deuocsid o’r atmosffer. Maent hefyd yn rhoi cartref i blanhigion ac anifeiliaid sydd mewn perygl, yn helpu i atal llifogydd i lawr yr afon drwy ddal dŵr, ac yn gallu helpu i atal tanau mynydd rhag lledaenu.

Ceir llawer o ffyrdd o adfer mawndir, ac mae’r rhan fwyaf o dechnegau’n cynnwys rhwystro sianeli draenio neu ardaloedd o ddŵr ffo wyneb. Gwneir hyn drwy greu argaeau gan ddefnyddio mawn neu goed. Wedyn, bydd angen llyfnhau’r ardal sy’n weddill ar ôl i safleoedd coediog gael eu llwyrgwympo, drwy droi bonion y coed â’u pen i lawr a’u gwthio’n yn ôl i mewn i’r mawn.
Roedd angen adfer y safle 50 hectar oherwydd y ffordd roedd wedi cael ei ddiraddio a’i ddraenio yn y gorffennol at ddibenion coedwigaeth fasnachol, tanwydd, ac amaethyddiaeth. Digwyddodd llawer o hyn yn syth ar ôl yr Ail Ryfel Byd pan oedd angen cynhyrchu mwy o bren. O ganlyniad i hyn, cafodd y mawndiroedd eu haredig a’u draenio, gan ddadorchuddio cynefinoedd a gostwng lefelau dŵr.
Dywedodd y Cynghorydd Jeremy Hurley, sef Aelod Cabinet Cyngor Castell-nedd Port Talbot dros Newid Hinsawdd a Thwf Economaidd: “Mae atal difrod pellach ac adfer ecosystemau iach fel mawndiroedd yn enghraifft o’r ffordd y mae strategaeth Datgarboneiddio ac Ynni Adnewyddadwy’r cyngor yn helpu i fynd i’r afael â newid hinsawdd yn uniongyrchol. Drwy adfer yr ecosystemau hyn, rydym nid yn unig yn helpu byd natur i wrthsefyll effeithiau cynhesu byd-eang, ond hefyd yn creu cynefinoedd ffyniannus ac amddiffynfeydd naturiol rhag llifogydd.”
Er bod y rhan fwyaf o’r safle yng Nghastell-nedd Port Talbot, ceir ardaloedd tebyg o fawndir ledled yr ucheldiroedd uwchben Cwm Afan a Chwm Rhondda, lle mae prosiect Mawndiroedd Coll yn gweithredu ar faterion amgylcheddol ac yn gwneud gwaith allgymorth mewn pentrefi lleol.
Caiff y gwaith hwn ei ariannu drwy Gronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol a’i gyflawni mewn partneriaeth rhwng Cynghorau Castell-nedd Port Talbot a Rhondda Cynon Taf, Cyfoeth Naturiol Cymru, Prifysgol Abertawe, a Coed Lleol.
I gael rhagor o wybodaeth, ewch i: https://www.npt.gov.uk/lostpeatlands neu i dudalennau cyfryngau cymdeithasol y prosiect: @LostPeatlands

Help keep news FREE for our readers
Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The South Wales Chronicle











