Home Newyddion Lle Hwb ariannol gwerth £10,000 yn helpu myfyrwyr meddygaeth i gael profiad o...

Hwb ariannol gwerth £10,000 yn helpu myfyrwyr meddygaeth i gael profiad o hyfforddiant hanfodol

0
784
Mark Davies, Vice-Chair of Health Plan, HSF AND also a trustee of The Hospital Saturday Fund Paul Jackson, Group Chief Executive, The Hospital Saturday Fund
Advertisement

Mae myfyrwyr meddygaeth yn Abertawe wedi derbyn cymorth ariannol hanfodol er mwyn manteisio ar gyfleoedd hyfforddiant gwerthfawr.

Cyflwynwyd rhodd o £10,000 i Ysgol Feddygaeth y Brifysgol gan The Hospital Saturday Fund, elusen cymorth iechyd sydd hefyd yn cynnig cymorth ar gyfer hyfforddiant meddygol yn y DU a Gweriniaeth Iwerddon.

Defnyddir yr arian tuag at gost darparu lleoliadau gwaith meddygol, sef rhan annatod o’r Cwrs Meddygaeth i Raddedigion sy’n rhoi i fyfyrwyr y cyfle i gael profiad amhrisiadwy cyn iddynt adael y Brifysgol i ddechrau eu gyrfaoedd.

Advertisement

Gall myfyrwyr ddewis eu lleoliadau gwaith eu hunain, gan eu galluogi nhw i fanteisio ar gyfleoedd dysgu na fyddent wedi bod ar gael iddynt fel arall. Bydd rhai myfyrwyr yn dewis lleoliadau gwaith mewn sefydliadau uchel eu parch neu mewn clinigau arbenigol adnabyddus, tra bydd myfyrwyr eraill yn chwilio am leoliadau gwaith mewn arbenigeddau penodol.

Fodd bynnag, mae lleoliadau gwaith wedi dod yn fwyfwy drud o ganlyniad i gostau llety ac yswiriant a chostau eraill felly bydd y cymorth ychwanegol a ddarperir gan yr elusen yn helpu i uchafu cyfleoedd lleoliad gwaith posibl i fyfyrwyr o bob math o gefndir economaidd-gymdeithasol.

Ymwelodd Prif Weithredwr Grŵp yr Elusen, Paul Jackson a Mark Davies, Is-gadeirydd Cynllun Iechyd yr elusen ag Abertawe i gwrdd â chynrychiolwyr o’r Ysgol Feddygaeth, gan gynnwys myfyrwyr, i glywed mwy am sut y bydd y cyllid yn helpu i wella eu hyfforddiant.

Dr Balwinder Bajaj, Medical Electives Lead, Swansea University

Dywedodd Dr Balwinder Bajaj, Arweinydd Lleoliadau Gwaith Meddygol ym Mhrifysgol Abertawe: “Rydym yn ddiolchgar am gymorth yr Hospital Saturday Fund ar gyfer rhaglen lleoliadau gwaith meddygol y cwrs Meddygaeth i Raddedigion.

“Mae hyn yn sicrhau mynediad at gyfleoedd dysgu iechyd byd-eang ar gyfer ein myfyrwyr er budd gofal cleifion y dyfodol yn y Deyrnas Unedig ac yn rhyngwladol.”

Dywedodd Mr Jackson: “Rydym ni yn y Hospital Saturday Fund yn ymrwymedig i gefnogi lleoliadau gwaith meddygol ac rydym yn ymwybodol o’r effaith enfawr y bydd hyn yn ei chael ar brofiad dysgu’r myfyrwyr er mwyn iddynt fod y genhedlaeth nesaf o feddygon a gweithwyr iechyd proffesiynol gwych.

“Edrychwn ymlaen at weld effaith gadarnhaol ein grant ar fyfyrwyr meddygaeth 2024 yn Abertawe.”

(O’r chwith) Dr Balwinder Bajaj, Mark Davies, Paul Jackson, Stuart Swan, Athro Kenneth Mckeegan,

Tim Hunt a Kathy Chamberlain.


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The South Wales Chronicle