Home Neath Port Talbot Cynllun ‘Llyfrgell Pethau’ newydd yn helpu preswylwyr i arbed arian a lleihau...

Cynllun ‘Llyfrgell Pethau’ newydd yn helpu preswylwyr i arbed arian a lleihau gwastraff

0
1040
Photo caption: the official opening of the Library of Things at Sandfields Library
Advertisement

Mae cynllun ‘Llyfrgell Pethau’ cyntaf Castell-nedd Port Talbot wedi agor yn swyddogol yn Llyfrgell Sandfields, gan gynnig cyfle i breswylwyr arbed arian a lleihau gwastraff.

Mae’r fenter yn galluogi pobl i fenthyca eitemau i’r cartref ac offer trydanol, gan gynnwys offer drud a ddefnyddir ar gyfer prosiectau DIY achlysurol. Ymysg yr eitemau sydd ar gael i’w benthyca mae dril, whilber, ‘jet-wash’, pibell ddŵr, sgriwdreifer trydan, pabell, peiriant glanhau carpedi, a gasebo.

Bydd y ‘Llyfrgell Pethau’ ar agor yn Llyfrgell Sandfields bob bore Llun a Mawrth rhwng 10 am a 12 pm.

Advertisement

Dechreuwyd y prosiect gan Aled Davies, un o Gydlynwyr Ardal Leol Castell-nedd Port Talbot, a weithiodd gyda Llyfrgell Sandfields i ddod â’r syniad yma i’r fei. Bydd Cydlynwyr Ardal Leol, yn ogystal â chefnogi pobl sydd mewn angen yn y gymuned, hefyd yn gweithio er mwyn helpu grwpiau cymunedol lleol i dyfu.

Mynegodd y Cynghorydd Jo Hale, Aelod Cabinet Cyngor Castell-nedd Port Talbot dros Wasanaethau Cymdeithasol i Oedolion ac Iechyd, ei brwdfrydedd o blaid y cynllun: “Mae’r fenter ragorol hon yn galluogi preswylwyr i fenthyca eitemau hanfodol am ddim, gan leihau’r pwysau ariannol yn ystod y cyfnod heriol hwn. Nid yn unig mae’n arbed arian, ond mae hefyd yn cyfrannu at leihau gwastraff a hybu dull gwyrddach, mwy cynaliadwy, o fyw.

“Mae ein Cydlynwyr Ardal Leol yn chwarae rhan hanfodol wrth sefydlu grwpiau cymunedol sy’n rhoi budd i breswylwyr, Gall prosiectau fel hwn feithrin ymdeimlad cryfach o gymuned drwy gefnogi ein gilydd mewn ffyrdd ystyrlon.”


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The South Wales Chronicle