Mae disgyblion o ysgolion yn ne Cymru wedi bod yn cymryd rhan yn Her Ysgolion Gyrfaoedd Blasus, cystadleuaeth sy’n herio disgyblion i ddylunio cynhyrchion bwyd a seigiau sy’n iach, yn gynaliadwy, ac yn fasnachol hyfyw.
Mae Her Ysgolion Gyrfaoedd Blasus yn fenter yng Nghymru gan yr Academi Sgiliau Genedlaethol ar gyfer Bwyd a Diod mewn partneriaeth â rhaglen a ariennir gan Lywodraeth Cymru, Food & Drink Skills Wales | Sgiliau Bwyd a Diod Cymru. Mae cefnogwyr yr Her Ysgolion eleni yn cynnwys Gyrfa Cymru, Bwydydd Castell Howell, AMRC Cymru, Leprino Foods a grŵp lletygarwch Seren.
Mae’r gystadleuaeth wedi cael ei chynnal ers 2018, gyda’r rowndiau terfynol yn cael eu cynnal yng ngogledd a de Cymru. Mae cystadleuaeth Gogledd Cymru yn gofyn i ddisgyblion greu cynnyrch newydd ar gyfer gwneuthurwr bwyd a diod, ac mae cystadleuaeth De Cymru yn gofyn i ddisgyblion greu saig newydd ar gyfer bwydlen grŵp bwyty.
Mae enillwyr blaenorol wedi cwblhau’r briffiau mor llwyddiannus fel bod eu cynnyrch wedi mynd ymlaen i gael ei gynhyrchu a’i werthu’n broffesiynol.
Mae’r gystadleuaeth eleni wedi denu nifer uchel o gystadleuwyr. Cymerodd 1196 o ddisgyblion o ysgolion ledled Cymru ran. Y rhai a gyrhaeddodd y rownd derfynol yn ne Cymru oedd Ysgol Harri Tudur, Ysgol Dyffryn Aman, Ysgol Gymunedol Cwmtawe, Ysgol Maes Y Gwendraeth, Ysgol Glan y Môr, Ysgol Coedcae ac Ysgol Gyfun Gymraeg Bro Myrddin. Bu’r ysgolion hyn yn brwydro yn y rownd derfynol, a gynhaliwyd ar 19 Mawrth ym Mharc Y Scarlets yn Llanelli.
Yr ysgol fuddugol oedd Ysgol Dyffryn Aman gyda Thriawd o Bwdinau Cymreig (Cacen Gaws Pice ar y Maen, Ganache Siocled a Choffi, a Chacen Ffrwythau gyda Hufen Iâ Pice ar y Maen).
Dywedodd Rebecca Flower, athrawes yn Ysgol Dyffryn Aman:
“Rydym ni fel ysgol wedi mwynhau cymryd rhan yn yr Her Gyrfaoedd Blasus eleni. Mae’r disgyblion wedi mwynhau ymchwilio i’r cynhwysion Cymreig a’r dreftadaeth sy’n gysylltiedig â’n pryd. Mae’r her hon wedi helpu’r disgyblion i feithrin sgiliau hanfodol o gyfathrebu, gwaith tîm ac ymchwil. Mae hon yn gystadleuaeth sydd wedi dangos sgiliau ac ymroddiad gwych gan bawb ac edrychwn ymlaen at gymryd rhan yn y dyfodol.”
Dywedodd Louise Cairns, Prif Weithredwr yr Academi Sgiliau Genedlaethol ar gyfer Bwyd a Diod/Gyrfaoedd Blasus:
“Llongyfarchiadau i Ysgol Dyffryn Aman ar ei pherfformiad rhagorol yn Her Ysgolion Gyrfaoedd Blasus eleni. Gwnaeth yr holl ymgeiswyr argraff fawr ar y beirniaid ond roedd eu creadigaeth yn wirioneddol sefyll allan o ran cynaliadwyedd, hyfywedd masnachol – a blas, wrth gwrs. Gobeithiwn y bydd cymryd rhan yn y gystadleuaeth hon yn ysbrydoli rhai disgyblion i ystyried gyrfa yn sector bwyd a diod rhagorol Cymru.”
Ychwanegodd Nerys Davies, Rheolwr Prosiect Food & Drink Skills Wales | Sgiliau Bwyd a Diod Cymru:
“Rydym yn falch iawn o fod wedi partneru â’r Academi Sgiliau Genedlaethol ar gyfer Bwyd a Diod ar gyfer y gystadleuaeth hwyliog ac addysgiadol iawn hon, sy’n helpu disgyblion i fod yn greadigol gyda bwyd wrth ddysgu am gyllidebu, cyrchu lleol a bwyta’n iach.
“Mae o werth enfawr i’r cyfranogwyr, ac yn rhoi cipolwg gwerthfawr ar y gyrfaoedd sydd ar gael yn y sector bwyd a diod. Mae wedi bod yn wych clywed yr adborth cadarnhaol gan ddisgyblion a lefel y diddordeb sydd yna mewn archwilio dyfodol o fewn y sector bwyd a diod bywiog yng Nghymru.”
Dywedodd Aled Evans, cynghorydd ymgysylltu busnes gyda Gyrfa Cymru: “Rhoddodd y gystadleuaeth hon gipolwg gwerthfawr ar y cyfleoedd sydd ar gael ym maes gweithgynhyrchu bwyd a lletygarwch i bawb a gymerodd ran.
“Gwelsom lawer o egin dalent yn ystod y cyflwyniadau, ac i lawer o’r disgyblion a gymerodd ran, does dim dwywaith bod yr her wedi tanio awydd i fynd i mewn i’r diwydiant cyflym hwn. Bydd y mewnwelediad a’r sgiliau y maen nhw wedi’u hennill drwy’r gystadleuaeth hon yn sicr yn aros gyda nhw am flynyddoedd i ddod.”
Help keep news FREE for our readers
Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The South Wales Chronicle












