Home Newyddion Lle Trefniadau Uwchgyfeirio ac Ymyrraeth ar gyfer gwasanaethau mamolaeth a newyddenedigol ym Mwrdd...

Trefniadau Uwchgyfeirio ac Ymyrraeth ar gyfer gwasanaethau mamolaeth a newyddenedigol ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe

0
446
By Welsh Government Logo Guidelines (gov.wales), Fair use, https://en.wikipedia.org/w/index.php?curid=68080140
Advertisement

Eluned Morgan AS, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Dros y misoedd diwethaf, mae’r Aelodau a theuluoedd wedi tynnu sylw at faterion ynglŷn â’r gwasanaethau mamolaeth a newyddenedigol ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe. Heddiw, rwy’n amlinellu’r gwaith y mae swyddogion wedi’i wneud i fynd i’r afael â’r pryderon hyn.

Er mwyn cael sicrwydd pellach, rwy’n cyhoeddi fy mod yn uwchgyfeirio’r gwasanaethau i statws monitro uwch.

Advertisement

Bydd hyn yn sicrhau bod gan y bwrdd y cymorth cynhwysfawr sydd ei angen arno i gyflawni’r cynlluniau gwella y mae wedi’u datblygu a bydd yn sicrhau bod swyddogion mewn sefyllfa dda i asesu’r cynnydd a wneir. Mae’r bwrdd wedi croesawu’r penderfyniad hwn.

Rwy’n gwneud y datganiad hwn i’r Aelodau heddiw, fel y byddant yn ymwybodol ar unwaith o’m penderfyniad. Byddaf yn traddodi datganiad llafar i’r Senedd yn ddiweddarach y prynhawn yma.

Dolen i’r dudalen we: 


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The South Wales Chronicle