
Mae Cyngor Castell-nedd Port Talbot a Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe wedi agor Ystafelloedd Datrysiadau Digidol o’r radd flaenaf yng Nghanolfan Iechyd a Gofal Cymdeithasol Castell-nedd.
Bwriedir i’r cyfleuster arloesol hwn gynnig cefnogaeth ac arweiniad hanfodol i bobl, y sawl sy’n gofalu amdanynt a gweithwyr proffesiynol sy’n gweithio yn y maes, a all elwa o ddefnyddio technoleg ddigidol brif ffrwd.
Mae’r Ystafelloedd Datrysiadau Digidol yn gwasanaethu fel hwb gwybodaeth, lle gall ymwelwyr archwilio ystod o dechnolegau digidol prif ffrwd newydd sydd ar gael a all wella ansawdd bywyd i’r rheini sydd am gynnal eu hannibyniaeth wrth fyw yng nghysur eu cartrefi eu hunain. Gall y rhain fod yn fuddiol fel offer annibynnol neu i ategu technoleg gynorthwyol arall a/neu becynnau gofal.
Fel rhan o’r fenter hon, gall ymwelwyr brofi sut i ddefnyddio’r technolegau hyn i ymgymryd â thasgau pob dydd sy’n hanfodol ar gyfer byw’n ddiogel ac yn annibynnol. Darperir arddangosiadau ymarferol yn yr ystafelloedd hyn sy’n dangos potensial technoleg ddigidol brif ffrwd mewn bywyd pob dydd, o reoli goleuadau ystafelloedd a pheiriannau cartref i agor llenni a rheoli systemau gwresogi..

Bydd ymwelwyr yn cael arddangosiad dywys a gallant gael cyngor pwrpasol ar ddefnyddio’r dechnoleg wahanol a’r gefnogaeth ehangach sydd ar gael.
Meddai’r Cynghorydd Jo Hale,, Aelod y Cabinet dros Wasanaethau Cymdeithasol i Oedolion ac Iechyd Cyngor Castell-nedd Port Talbot, “Mae’r Ystafelloedd Datrysiadau Digidol yn cynrychioli cam ymlaen yn ein hymrwymiad tuag at hyrwyddo byw’n annibynnol a lles yn ein cymunedau.
“Gall technoleg helpu’r rhieni ag anghenion gofal a chefnogaeth mewn nifer o ffyrdd, o’u helpu i gysylltu â ffrindiau a theulu i dasgau beunyddiol mwy arferol fel troi goleuadau a systemau gwresogi ymlaen a’u diffodd.
“Bydd y gyfres o ystafelloedd hyn yn fan cefnogaeth, a fydd yn cynnig cyfle unigryw i unigolion, eu teuluoedd a gweithwyr proffesiynol ddarganfod a deall potensial technoleg gynorthwyol.
“Byddwn yn annog unrhyw un sydd â diddordeb mewn cael rhagor o wybodaeth i drefnu apwyntiad a dod i ymweld â’r hwb newydd i weld pa gefnogaeth sydd ar gael.”
[Insert quote from Swansea Bay University Health Board]
Gellir trefnu apwyntiadau i ymweld â’r Ystafelloedd Datrysiadau Digidol a gweld y dechnoleg gynorthwyol drwy ymuno ag arddangosiad grŵp (uchafswm o 6 lle y sesiwn) drwy ddefnyddio’r ddolen isod:
Ystafelloedd Datrysiadau Digidol (office365.com)
Gellir trefnu sesiynau unigol drwy gysylltu â’r tîm Technoleg Gynorthwyol:
E-bostiwch telecare.service@npt.gov.uk neu ffoniwch 01639 686636
Mae’r Ystafelloedd Datrysiadau Digidol yn wasanaeth ar y cyd a ddarperir gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe a Chyngor Castell-nedd Port Talbot.

Help keep news FREE for our readers
Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The South Wales Chronicle










