
Mae Trafnidiaeth Cymru yn annog pob cwsmer i wirio cyn teithio gan y bydd gwaith ar Metro De Cymru yn effeithio ar wasanaethau o benwythnos nesaf.
Bydd gwaith trawsnewid yn parhau ar draws llinellau’r cymoedd er mwyn paratoi ar gyfer Metro De Cymru a’r llinellau sy’n cysylltu ag ef.
Bydd y cyntaf o sawl cyfnod o waith peirianneg a fydd yn effeithio ar wasanaethau drwy Gaerdydd Heol y Frenhines yn dechrau dros benwythnos gŵyl y banc mis Awst a bydd yn cael ei gynnal yn ysbeidiol hyd at fis Tachwedd.
Mae TrC yn cynghori pob cwsmer i wirio cyn teithio gan y bydd bysiau yn lle trenau yn rhedeg.
Bydd posteri gwybodaeth yn cael eu harddangos mewn gorsafoedd ar draws y llinellau yr effeithir arnynt a bydd y gwiriwr teithiau yn cael ei ddiweddaru i roi gwybod i gwsmeriaid am y newidiadau.
Mae’r gwaith o drawsnewid Llinellau Craidd y Cymoedd ar gyfer y Metro wedi cael ei ariannu’n rhannol gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru, a bydd yn galluogi gwasanaethau cyflymach ac amlach rhwng Caerdydd a blaenau’r cymoedd.
Help keep news FREE for our readers
Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The South Wales Chronicle











