Home Newyddion Lle Gan gyflwyno NNIISH: oes newydd ar gyfer arloesi mewn chwaraeon a thechnoleg...

Gan gyflwyno NNIISH: oes newydd ar gyfer arloesi mewn chwaraeon a thechnoleg iechyd yng Nghymru

0
399
NNIISH social
Advertisement

Mae Prifysgol Abertawe wedi lansio’r Rhwydwaith Cenedlaethol ar gyfer Arloesedd mewn Chwaraeon ac Iechyd (NNIISH), sef menter newydd sy’n ceisio trawsnewid tirwedd technoleg iechyd a chwaraeon yng Nghymru.

Wedi’i arwain gan Brifysgol Abertawe a’i gefnogi gan Fargen Ddinesig Bae Abertawe a byrddau iechyd lleol, nod NNIISHyw cyflymu twf arloesi ym meysydd technoleg chwaraeon, technoleg feddygaeth a gofal iechyd yn Ninas-ranbarth Bae Abertawe gan ddod ag arbenigedd lleol, cenedlaethol ac amlwladol ynghyd.

Bydd NNIISH yn bartneriaeth ar y cyd rhwng y byd academaidd, diwydiant a’r GIG sy’n esblygu’n barhaus. Ei nod yw cryfhau partneriaethau presennol a meithrin cynghreiriau newydd gan ddenu dawn ac annog buddsoddiad er mwyn rhoi hwb i’r economi leol a gwneud Abertawe yn arweinydd yn fyd-eang ym maes arloesi technoleg feddygaeth a thechnoleg chwaraeon.

Advertisement

Meddai’r Athro Keith Lloyd – Dirprwy Is-ganghellor a Deon Gweithredol y Gyfadran Meddygaeth, Iechyd a Gwyddor Bywyd: “Rydym yn gyffrous i gyflwyno NNIISH, sef menter sy’n torri tir newydd ac sy’n ymroddedig i wella chwaraeon a llesiant ar draws Cymru a’r tu hwnt. Trwy feithrin cymuned ar draws meysydd chwaraeon, iechyd a thechnoleg, ein nod yw ysgogi atebion arloesol a fydd yn chwyldroi’r sector.”

Human & Health Sciences

Os ydych chi’n gweithio ym meysydd technoleg chwaraeon, technoleg feddygaeth neu ofal iechyd a hoffech chi fod yn rhan o weledigaeth NNIISH – i drawsnewid tirwedd technoleg iechyd a thechnoleg chwaraeon yng Nghymru – cofrestrwch ar restr bostio NNIISH nawr.


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The South Wales Chronicle