
Heddiw (dydd Mawrth, 28 Mai) cyhoeddwyd mai Alys Hedd Jones o Gaerdydd yw Prif Ddramodydd Eisteddfod yr Urdd Maldwyn 2024.
Y dasg eleni oedd cyfansoddi drama neu fonolog addas i’w pherfformio ar unrhyw gyfrwng, ar gyfer dim mwy na dau actor, heb fod yn hirach na chwarter awr. Yn ôl y beirniad, Angharad Lee a Sarah Bickerton,daeth degau o ddramâu i law, gyda “phob un â photensial, a dewis y tri oedd ar y brig yn dasg anodd iawn.”
Mae Alys yn 17 mlwydd oed ac yn astudio Llenyddiaeth, Drama, Cymdeithaseg a Ffrangeg fel Lefelau A yn Ysgol Gyfun Gymraeg Bro Edern. Mae ganddi ddiddordeb mawr mewn theatr a cherddoriaeth ac mae hi’n mwynhau ysgrifennu, actio, canu a chyfansoddi caneuon. Mae ei drama buddugol ‘Amserlen’ yn stori am ddwy ffrind sydd wedi ffraeo, ac am benderfyniad a fyddai’n newid eu bywydau am byth.
Meddai’r beirniaid: “Dyma ddrama agos atoch oedd yn ein annog i barhau i ddarllen o’r cychwyn cyntaf. Mae’r ddeialog yn fachog, gwych gyda chysyniad syml ond theatrig sydd yn llwyddo i ddal y boen a’r dasg amhosib o ollwng gafael ar y gorffennol. Mae’n archwilio rhywbeth mor gymhleth mewn ffordd agos atat ti a llawn calon.”
Yn ail yn y gystadleuaeth oedd Annell Dyfri o Langynnwr, ac Alaw Jones o Llanbedr Pont Steffan oedd yn drydydd.
Bydd Alys yn treulio amser yng nghwmni’r Theatr Genedlaethol ac yn derbyn hyfforddiant pellach gyda’r BBC.
Derbyniodd Alys fedal arbennig wedi ei chreu gan y gemydd Rhiannon o Dregaron. Rhoddir y Fedal er cof am Meinir Wyn Jones, Cyn-drefnydd yr Urdd Maldwyn, gan Menna a’r teulu.
Bydd gwaith Alys yn cael ei gyhoeddi ar ffurf pamffled gan Gyhoeddiadau’r Stamp yn syth ar ôl y seremoni. Gellir prynu copi ar y maes neu mewn siopau lyfrau lleol. Bydd gwaith Annell ac Alaw a’r feirniadaeth lawn ar gael ar wefan yr Urdd cyn diwedd y dydd.
Help keep news FREE for our readers
Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The South Wales Chronicle











